Gorsaf reilffordd Wellington

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wellington03LB.jpg
Wellington04.jpg
Wellington05.jpg

Mae Gorsaf reilffordd Wellington y brif orsaf reilffordd yn Wellington, Seland Newydd, ac yn derminws i’r rheilffyrdd i Auckland, Johnsonville, Waikenae, Melling a’r Wairarapa. Trefnir trenau i’r maestrefi gan Metlink.[1]

Mae prif adeilad yr orsaf yn 23.5 medr o uchder a 105.5 medr o hyd. Mae ganddo 8 o golofnau dorig, ac mae gan y neuadd tocynnau llawr o derazzo marmor.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol ym `1874, ond cafodd ei llosgi ym 1878. Wedyn adeiladwyd gorsaf reilffordd Lambton yn 1880 ar gyfer trenau i’r Wairarapa. Adeiladwyd Gorsaf Reilffordd Thorndon yn 1886 gan Reilffordd Wellington a Manawatu ar gyfer ei threnau i Longburn. Roedd galw am un orsaf ar gyfer y rheilffyrdd i gyd, a chynlluniwyd gorsaf ym 1922 . Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1933 ac agorwyd yr orsaf ar 19 Mehefin 1937.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]