Gorsaf reilffordd Waterloo Llundain
| Math | central station, gorsaf pengaead |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Pont Waterloo |
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Lambeth |
| Agoriad swyddogol | 11 Gorffennaf 1848 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | London station group |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 15 metr |
| Cyfesurynnau | 51.5031°N 0.1132°W |
| Rheilffordd | |
| Nifer y platfformau | 22 |
| Côd yr orsaf | WAT |
| Rheolir gan | Network Rail |
![]() | |
| Perchnogaeth | Network Rail |
Terfynfa reilffordd fawr yng nghanol Llundain yw Gorsaf Waterloo Llundain. Mae wedi'i lleoli i'r de o Afon Tafwys ger Pont Waterloo, mae'r orsaf yn gwasanaethu De Lloegr, De-Orllewin Lloegr a gorsafoedd maestrefol Gorllewin Llundain.
Gorsaf Waterloo Llundain yw gorsaf drenau prysuraf y Deyrnas Unedig o ran nifer y teithwyr ac mae'n un o orsafoedd trenau prysuraf Ewrop, gydag 88 miliwn yn teithio drwyddi yn ystod blwyddyn ariannol 2008–09.[1]. Mae'r gwir nifer o deithwyr fodd bynnag yn debygol o fod yn llawer uwch na'r ffigwr hwn, gan nad yw'n cynnwys teithwyr na brynodd docyn na theithwyr y Rheilffordd Danddaearol. Hon yw gorsaf mwyaf Prydain o ran nifer o blatfformau ac o ran arwynebedd llawr. Yr orsaf drenau prysuraf o ran nifer y trenau yw Gorsaf Clapham Junction, a saif bedair milltir i lawr y lein o Orsaf Waterloo Llundain.
Mae'r trefi sydd â gwasanaethau i Waterloo yn cynnwys y canlynol (rhestr anghyflawn):
- Reading
- Guildford
- Basingstoke
- Southampton
- Portsmouth
- Bournemouth
- Gorsafoedd maestrefol Gorllewin/De-orllewin Llundain
Lleolwyd y gan "Waterloo Sunset" gan y Kinks yng ngorsaf Waterloo.
Mae gorsaf danddaearol Waterloo hefyd ar rwydwaith Rheilffordd Danddaearol Llundain, sy'n cysylltu gyda'r orsaf rheilffordd genedlaethol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Clinnick, Richard. "Waterloo retains its crown as Britain's busiest railway station", Rail, Peterborough, 21 Ebrill 2010.
