Neidio i'r cynnwys

Gorsaf reilffordd Tref Glyn Ebwy

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Tref Glyn Ebwy
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGlynebwy Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol17 Mai 2015 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlynebwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.776°N 3.202°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO168099 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Côd yr orsafEBB Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru Edit this on Wikidata
Map

Mae gorsaf reilffordd Tref Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale Town) yn un o ddwy orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent, Cymru. Mae ar Rheilffordd Cwm Ebwy.

Agorwyd yr orsaf ar y 17 Mai 2015[1] pan ddechreuodd gwasanaethau i Gaerdydd Canolog ac yn ôl ar ôl 46 mlynedd o fod yn llinell cludo nwyddau yn unig. Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys gwasanaethau bob awr i Gasnewydd.

Cynllunio ac agor

[golygu | golygu cod]

Yn Strategaeth Defnyddio Llwybrau Network Rail, 2008, nodwyd y bwriad i greu cysylltiad rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd i'w weithredu yn y cyfnod 2009-2018. Ym mis Mai 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai llinell Glyn Ebwy yn cael ei hymestyn o'r derfynfa dros dro yn Mharcffordd Glyn Ebwy i'r orsaf newydd yn Nhref Glyn Ebwy. Cytunwyd ar gyfanswm o £11.5 miliwn i ariannu'r orsaf, estyniad llinell a thirlunio cysylltiedig ar gyfer yr ardal gyfagos. Bythefnos yn ddiweddarach, cytunwyd ar gyllid hefyd ar gyfer Gorsaf reilffordd Pye Corner, ar y llinell.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32756487
  2. "£11.5m for train station in Ebbw Vale town centre". South Wales Argus. 7 May 2013. Cyrchwyd 22 June 2013.
  3. "SEWTA Welcomes £15M Ebbw Valley Line Investment". SEWTA. 17 May 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 August 2013. Cyrchwyd 22 June 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.