Gorsaf reilffordd Caerwysg Dewi Sant
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Gorsaf reilffordd St Davids Caerwysg)
| Math | gorsaf reilffordd |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1844 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas Caerwysg |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 50.7296°N 3.54354°W |
| Cod OS | SX911933 |
| Rheilffordd | |
| Nifer y platfformau | 6 |
| Côd yr orsaf | EXD |
| Rheolir gan | Great Western Railway |
![]() | |
| Statws treftadaeth | locally listed building |
| Manylion | |
Mae Gorsaf reilffordd Caerwysg Dewi Sant (Saesneg: Exeter St David's railway station) yn un o saith gorsaf reilffordd sy'n gwasanaethu dinas Caerwysg yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr.
Fe'i hagorwyd ar 1 Mai 1844 fel terfynfa ar gyfer Rheilffordd Bryste a Chaerwysg.[1] Cynlluniwyd yr adeilad gan Isambard Kingdom Brunel.[2] Roedd dau lein yn cysylltu'r orsaf â Llundain, Rheilffordd y Great Western ar ben gogleddol yr osaf a Rheilffordd Llundain a'r De-Orllewin ar ei phen deheuol. O Gaerwysg mae trenau'n rhedeg ymlaen i Gernyw. Mae trenau ar Lein Tarka yn pasio trwy'r orsaf ar eu ffordd rhwng Barnstaple ac Exmouth.
-
Trên First Great Western yn cyrraedd
-
Trên yn yr orsaf
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Exeter St Davids. Tarka Rail Association. Adalwyd ar 27 Ebrill 2014.
- ↑ (Saesneg) St David's Station. Exeter Memories. Adalwyd ar 27 Ebrill 2014.
