Gorsaf reilffordd Preston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Preston01LB.jpg
Preston National Rail logo.svg
Preston Station - geograph.org.uk - 1527969.jpg
Lleoliad
Lleoliad Preston
Awdurdod lleol Preston
Gweithrediadau
Côd gorsaf PRE
Rheolir gan Virgin Trains
Nifer o blatfformau 8
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol
Preston02LB.jpg

Mae gorsaf reilffordd Preston yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu dinas Preston yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'r orsaf yn sefyll ar brif linell Arfordir y Gorllewin ac fe'i rheolir gan Virgin Trains. Mae llinellau eraill yn mynd i Blackpool, Manceinion, Lerpwl, Blackburn a Burnley.

Agorwyd yr orsaf ym 1880. Mae’r orsaf yn adeilad rhestredig gradd II. Perchennog yr orsaf yw Network Rail, ond rheolir yr orsaf gan Virgin Rail. Defnyddir yr orsaf hefyd gan drenau Northern Rail. Preston yw’r orsaf prysuraf yn yr ardal tu allan o Lerpwl a Manceinion. Mae tua 5 miliwn o deithiau’n dechau o’r orsaf yn flynyddol, ac mae 1.9 miliwn o deithwyr yn newyd trenau yno. [1]

Agorwyd bwffé am ddim ar gyfer milwr o morwyr ym mis Awst 1915, yn defnyddio be’ sy’r ystafell aros heddiw. Cariwyd bwyd i’r dynion yn mynd trwodd ar drenau hefyd. Gwirfoddolodd 400 o ferched i rhoi bwyd yddynt. Caewyd y bwffé yn Nhachwedd 1919. Bwydwyd cyfanswm o 3.5 milwn o filwyr a morwyr. [2]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Template Railway Stop.svg Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.