Gorsaf reilffordd Minehead

Oddi ar Wicipedia

Mae Gorsaf reilffordd Minehead yn derminws gogleddol i Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf, sy’n rheilffordd treftadaeth yng Ngwlad yr Haf. Agorwyd yr orsaf yn wreiddiol ym 1874, pan estynnwyd y rheilffordd wreiddiol o Watchet i Minehead. Roedd gan yr orsaf un platfform, 400 troedfedd o hyd, sied nwyddau a iard. Estynnwyd yr orsaf gyda tŵf y traffig dros yr hafau. Ychwanegwyd platfform arall, ac estynnwyd yr un gwreiddil ym 1933. Ychwanegwyd bocs signal, sied ar gyfer locomotifau a seidins. Adeiladwyd stablau a defnyddiwyd ceffylau i ddosbarthu nwyddau lleol. Mae siop, sy’n gwerthu llyfrau a DVDs, modelau, dillad, cardiau post stampiau. Mae swyddfeydd y rheilffordd yn rhan canalog adeilad yr orsaf a’r swyddfa wybodaeth a’r toiledau hefyd. Rhwng y 2 blatfform mae sioparall yn gwerthu llyfrau, DVDs ac ati. Heibio platfform 2 mae’r trofwrdd, sy’n dod yn wreiddiol o Bwllheli wedi cyrraedd ym 1979, ac wedi gosod yn ei le yn 2008. Mae caffi ger y trofwrdd. Adeiladwyd y swyddfa tocynnau gan wirfoddolwyr yn y 1980au, yn defnyddio pren a ffenestri o orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.[1] Mae'r orsaf y adeilad rhestredig (Gradd II)[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd yr orsaf gan Reilffordd Minehead ar 16 Gorffennaf 1874. Gweithredwyd y rheilffordd gan Reilffordd Bryste a Chaerwysg, y daeth yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1876. Daeth Rheilffordd Minehead yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1897.[3]Daeth drafig nwyddau i ben yn 1964, a chawyd y rheilffordd wreiddiol ar 4 Ionawr 1971.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
  2. [Gwefan historic England]
  3. History of the Great Western Railway, cyfrol 2, 1863-1921, gan E T MacDermot, 1931