Gorsaf reilffordd Heol 30ain, Philadelphia

Oddi ar Wicipedia

Mae Gorsaf reilffordd Heol 30ain, Philadelphia, yn swyddogol Gorsaf reilffordd William H. Gray III Heol 30ain ers 2019, yn orsaf yn Philadelphia, Pennsylvania, yr un mwyaf un yn y ddinas. Defnyddir yr orsaf gan drenau Amtrak, SEPTA a New Jersey Transit. Mae dros 4 miliwn o bobl yn defnyddio’r orsaf yn flynyddol.[1]

Adeiladwyd yr orsaf bresennol rhwng 1929 a 1933; cynlluniwyd yr orsaf gan Graham, Anderson, Probst and White, yn neoglasurol tu allan gyda manylion Art Deco tu mewn. Mae colofnau corinthiaidd a galchfaen Alabama, 71 troedfedd o uchder, tu allan yr adeilad.[2] Mae'r llawr yn farmor o Denessee[3]. Adeiladwyd yr orsaf i ddisodli Gorsaf Reilffordd Heol Broad ynghanol y ddinas.[4] Roedd gan yr adeilad gapel, marwdy ac ysbyty, ac roedd lle ar y to i lanio awyrennau bach. Mae gwaith celf gan Karl Bitter, ‘Yr Ysbryd Trafnidiaeth’, crewyd ym 1895, ac hefyd cofeb rhyfel gan Walker Hancock o 1950 yn neuadd fawr yr orsaf.[5]

Ychwanegwyd yr orsaf i Rhestr Genedlaethol o Lefydd Hanesyddol ym 1978.[6]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Dolen allanol[golygu | golygu cod]