Gorsaf reilffordd Croes y De, Melbourne

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Croes y De, Melbourne
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCrux Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol17 Ionawr 1859 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1859 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00, UTC+11:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDocklands Edit this on Wikidata
SirCity of Melbourne Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau37.8184°S 144.9524°E Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformau16 Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr13,088,849 ±500 (–2009), 14,400,146 ±500 (–2010), 16,930,299 ±500 (–2011), 16,828,202 ±500 (–2012), 17,091,330 ±500 (–2014), Unknown (–2013) Edit this on Wikidata
Rheolir ganMetro Trains Melbourne Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth ôl-fodern Edit this on Wikidata
PerchnogaethVicTrack Edit this on Wikidata

Mae Gorsaf reilffordd Croes y De un o brif orsafoedd rheilffordd Melbourne, Awstralia, ac mae hi hefyd yn cynnwys gorsaf bysiau ar gyfer talaith Victoria a Maes awyr rhyngwladol Melbourne.

Mae trenau rhyngdaleithiol i Adelaide a Sydney yn defnyddio’r orsaf.

Mae trenau V-Line yn mynd o’r orsaf i Ballarat, Geelong, Bendigo, Gippsland a Seymour, i gyd yn nhalaith Victoria.[1]

Mae’r orsaf ar gylch canolog system Metro Melbourne, felly mae hi’n gwasanaethu pob un o linellau’r Metro.[2] Mae hi hefyd ar gylch canolog rhwydwaith Tramiau Yarra.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yr orsaf wreiddiol ar y safle oedd gorsaf reilffordd Batman’s Hill. Newidiwyd enw’r orsaf i Heol Spencer. Dechreuodd gwasanaethau i drenau ym 1859 gyda un platfform. Ycchwanegwyd un arall ym1874. Gosodwyd un trac ar gyfer trenau nwyddau rhwng Heol Spencer a Gorsaf reilffordd Stryd Flinders ym 1879. Ychwanegwyd platfform arall erbyn 1880. Adeiladwyd cysylltiad newydd rhwng y 2 orsaf ym 1891, a dechreuodd trenau i deithwyr rhyngddynt ym 1894. Ychwanegwyd 4 platfform arall rhwng 1918 a 1924. Creuwyd prif adeilad newydd ym 1960, ac adeiladwyd prif blatfform newydd, 413 medr o hyd ar gyfer gwasanaeth newydd ar draciau lled safonol i Sydney. Ail-adeiladwyd ac ail-enwyd yr orsaf Southern Cross yn 2006[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan yr orsaf
  2. "Map ar wefan Metro Melbourne" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-01-07. Cyrchwyd 2018-01-07.
  3. Gwefan railway-technology.com

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.