Gorsaf reilffordd Carshalton Beeches

Oddi ar Wicipedia

Mae Gorsaf reilffordd Carshalton Beeches yn gwasanaethu maesdref 'deiliog' o'r un enw i'r de o Lundain ar y lein rhwng West Croydon a Sutton. Ni ddylid ei gymysgu â gorsaf Carshalton tua milltir i'r gogledd ar y lein rhwng Sutton a Chyffordd Mitcham. Mae'r orsaf rhwng gorsafoedd Wallington a Sutton. Mae ganddi ddau blatfform a swyddfa docynnau, ond ni fu erioed iard nwyddau yma. Roedd yr orsaf yn holl bwysig yn natblygiad y wlad i'r de o'r lein fel ardal o dai cysurus yn hanner cyntaf yr 20g, wedi iddi gael ei hagor ym 1906 i wasanaethu casgliad o dai newydd - yn y lle cyntaf fel Beeches Halt - er i'r lein ei hun fod mewn bodolaeth ers 1847. Bu trenau o'r orsaf arfer redeg i orsafoedd West Croydon, Victoria a London Bridge ar yr un llaw a gorsafoedd Epsom Downs a Holborn Viaduct ar y llall, er bod cyrchfannau'r gwasanaethau wedi newid yn ddiweddar. Cafwyd gwasanaethau trenau trydan (trwy gyfrwng uwch-wifrau) ym 1925, a gymerodd le drenau stêm motor; ond ym 1930 fe gysylltwyd y lein â gweddill system trydedd reilen y Southern Railway.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. gwybodaeth personol