Neidio i'r cynnwys

Goresgyniad Normanaidd Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Goresgyniad Normanaidd Lloegr
Enghraifft o:goresgyniad Edit this on Wikidata
Dyddiad1066 Edit this on Wikidata
LleoliadTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Goresgyniad Teyrnas Lloegr yn 11g gan fyddin dan arweiniad William, Dug Normandi, a elwir yn ddiweddarach yn "Gwilym Goncwerwr", oedd Goresgyniad Normanaidd Lloegr. Ychydig ddyddiau ar ôl i fyddin William lanio ar arfordir deheuol Lloegr ymladdwyd Brwydr Hastings ar 14 Hydref 1066. Yno trechwyd byddin Lloegr dan arweiniad y Brenin Harold a lladdwyd Harold ei hun. Coronwyd William yn frenin, er na fyddai ei goncwest o Loegr gyfan wedi'i chwblhau tan 1072, ar ôl iddo atal amryw o wrthryfeloedd.

Digwyddiadau 1066

[golygu | golygu cod]

Bu farw Brenin Lloegr, Edward y Cyffeswr, ar 5 Ionawr 1066 heb epil. Dewiswyd ei frawd-yng-nghyfraith, Harold Godwinson, i'w olynu, a chafodd Harold ei goroni'n frenin yn Abaty Westminster y diwrnod canlynol.[1]

Heriwyd hawl Harold i'r orsedd ar unwaith gan ddau reolwr pwerus o dramor. Honnodd Brenin Norwy, Harald III, a adnabyddir yn gyffredin fel Harald Hardrada, fod cytundeb wedi bod rhwng ei ragflaenydd, Magnus I, a brenin cynharach Lloegr, Harthacnut, yn ôl pa un a fyddai’n marw heb etifedd, byddai’r llall yn etifeddu teyrnasoedd Lloegr a Norwy. Yn ei dro, honnodd William, Dug Normandi, fod Edward y Cyffeswr wedi addo’r orsedd iddo a bod Harold wedi tyngu llw ar ei gytundeb i hyn.

Glaniodd Harald Hardrada yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ym mis Medi. Cafodd ei drechu a'i ladd gan Harold ym Mrwydr Stamford Bridge (yn Nwyrain Swydd Efrog heddiw) ar 25 Medi. Glaniodd William, Dug Normandi, ar arfordir deheuol Lloegr, yn Pevensey (yn Nwyrain Sussex heddiw), ar 28 Medi. Ymdeithiodd Harold a'i luoedd 200 milltir (320 km) i'r de i'w gyfarfod a'i wynebu ym Mrwydr Hastings ar 14 Hydref. Arweiniodd y frwydr hon at farwolaeth Harold a buddugoliaeth William. Coronwyd William yn frenin yn Abaty Westminster ar Ddydd Nadolig.

Meddiannu grym

[golygu | golygu cod]

Roedd angen i William o hyd fynnu ei rym dros Loegr, a gafodd ei ysgwyd gan nifer o wrthryfeloedd tan 1072. Er mwyn rheoli ei deyrnas yn well, sefydlodd William nifer o gestyll mewn lleoliadau strategol a chymerodd diroedd oddi wrth yr uchelwyr Eingl-Sacsonaidd a'u hailddosbarthu i'w ddilynwyr Normanaidd. Cafodd y goresgyniad Normanaidd ganlyniadau pellgyrhaeddol i hanes Lloegr, lle'r oedd y dosbarth llywodraethol newydd yn dal ei stadau ffiwdal yn uniongyrchol oddi wrth y brenin ac yn siarad Ffrangeg Normanaidd. Ar haenau isaf cymdeithas, diflannodd caethwasiaeth yn y degawdau yn dilyn y goncwest, er y gallai hyn fod wedi cyflymu proses a oedd eisoes ar y gweill.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Nick Higham (2000). The Death of Anglo-Saxon England (yn Saesneg). Sutton. t. 167-181. ISBN 978-0-7509-2469-6.
Baner LloegrEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.