Gorden Kaye

Oddi ar Wicipedia
Gorden Kaye
GanwydGordon Fitzgerald Kaye Edit this on Wikidata
7 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Huddersfield Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
Knaresborough Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Kirklees College
  • King James's School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor comig o Loegr oedd Gorden Fitzgerald Kaye (7 Ebrill 194123 Ionawr 2017) oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae René Artois yn y gyfres comedi deledu Prydeinig 'Allo 'Allo!.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Kaye yn Huddersfield, West Riding Swydd Efrog, Lloegr, yn unig blentyn; roedd ei fam oedd 42 pan cafodd ei eni. Roedd ei dad yn yrrwr wagen ac yn yr ARP yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ar adegau eraill roedd yn gweithio fel peiriannydd mewn ffatri tractor.

Pan yn ifanc, roedd Kaye yn chwarae rygbi cynghrair ar gyfer Moldgreen ARLFC cyn astudio yn Ysgol Ramadeg King James yn Almondbury, Huddersfield.[1]

Bu'n gweithio mewn radio ysbyty yn Huddersfield (gan gyfweld y Beatles yn 1965), a fe'i gyflogwyd mewn melinau tecstilau  (gan gynnwys un John Crowther), ffatri win a ffatri tractor yng Ngorllewin Swydd Efrog.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Kaye mewn drama radio a gyfarwyddwyd gan Alan Ayckbourn, a hefyd mewn drama deledu o Fanceinion. Awgrymodd Ayckbourn yn ei fod yn cael clyweliad ar gyfer Theatr Octagon Bolton; cynigiwyd contract iddo a roedd ei rannau yn cynnwys Pishchik yn The Cherry Orchard, wedi'i ddilyn gan rannau yn The Homecoming, The Imaginary Invalid, Luther a dwbl-bil o Oedipus a Cyclops.

Ar ôl cael ei weld gan Pat Phoenix yn Little Malcolm yn Bolton daeth i amlygrwydd yn chwarae Bernard Butler, nai Elsie Tanner yn opera sebon Coronation Street yn 1969. Nes ymlaen gwnaeth argraff ar y cynhyrchydd/awdur David Croft yn dilyn rhannau gwadd yn It Ain't Half Hot Mum, a Come Back Mrs Noah. Yn 1978 ymddangosodd yn y comedi fer The Waterloo Bridge Handicap yn serennu Leonard Rossiter, ac  ymddangosodd fel Dimes yn ffilm nodwedd Porridge (1979) ochr yn ochr â Ronnie Barker.

Yn 1981, ymddangosodd Kaye fel Frank Broadhurst yn y gyfres ddrama i blant Codename Icarus

Cynigiodd Croft iddo y rôl arweiniol mewn cyfres roedd wedi ysgrifennu o'r enw Oh, Happy Band! ond nid oedd Kaye oedd ar gael ac aeth y rhan i Harry Worth. Diflannodd Oh, Happy Band! ar ôl un cyfres. Ymddangosodd Kaye hefyd mewn tair pennod o'r gomedi sefyllfa mewn siop adrannol Prydeinig Ar You Being Served?

Roedd gan Kaye rhan fach yn ffilm Terry Gilliam Brasil fel clerc desg M. O. S. Lobby Porter.[2]

Chwaraeodd Dr Grant mewn addasiad teledu o Mansfield Park a Lymoges, Dug Awstria yng nghynhyrchiad 1984 y BBC o King John, gan Shakespeare.[3] Bu hefyd ar daith y National Theatre o As You Like It, fel Touchstone.

Yn 1993, gwnaeth Kaye ymddangosiad gwadd mewn pennod Nadolig arbennig o Family Fortunes, lle roedd yn capten tîm, gan roi y cyflwynydd Les Dennis ar rownd arbennig "Double Big Money" er mwyn i Dennis sgorio mwy na cant o bwyntiau i ddyblu gwobr ariannol yr elusen, a fe wnaeth hynny yn llwyddiannus.

'Allo 'Allo![golygu | golygu cod]

Yn 1982, anfonodd David Croft sgript at Kaye ar gyfer pennod beilot o 'Allo 'Allo! gan ei wahodd i chwarae'r cymeriad canolog o René Artois. Derbyniodd y gwahoddiad ac ymddangosodd yn holl benodau'r gyfres (82 pennod rhwng 1982 a 1992) a gnwaeth 1,200 o berfformiadau ar y fersiwn llwyfan.[4]

Dychwelodd Kaye i chwaraee Rene Artois yn 2007 ar gyfres pennod arbennig o 'Allo 'Allo! ac mewn sioe lwyfan yn Brisbane, Awstralia, yn y Twelfth Night Theatre ym mis Mehefin a Gorffennaf, ochr yn ochr â Sue Hodge fel Mimi Labonq a Guy Siner fel Is-gapten Gruber. Portreadwyd y cymeriadau arall gan actorion Awstraliaidd, gan gynnwys Katy Manning, Steven Tandy, Chloe Dallimore, Jason Gann a Tony Alcock.[5]

Roedd Kaye yn destun rhifyn o This Is Your Life yn 1986 pan cafodd ei synnu gan Eamonn Andrews wrth iddo orffen perfformiad o fersiwn llwyfan o 'Allo 'Allo! yn Theatr Prince of Wales yn y West End.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddoedd Kaye ei hunangofiant yn 1989, René & Me: A Sort of Autobiography (gyda Hilary Bonner, ISBN 0-283-99965-9) lle mae'n disgrifio ei brofiadau fel llanc ifanc swil, hoyw, dros ei bwysau. Daeth y sillafiad anarferol o'r enw Gorden (fel arfer "Gordon") o ganlyniad i wall teipio gan y Gymdeithas Actorion Prydeinig Equity.[6]

Dioddefodd Kaye anafiadau difrifol i'w ben mewn damwain car yn ystod storm Diwrnod Burns ar 25 Ionawr 1990.[7] Er nad oedd yn gallu cofio unrhyw fanylion am y digwyddiad, roedd yn dal ganddo graith ar ei dalcen yn deillio o darn o bren arwydd hysbysebu a dorrodd drwy ffenest flaen ei gar. Tra'n gwella yn yr ysbyty o lawdriniaeth ar yr ymennydd i drin yr anafiadau a gafwyd yn y ddamwain, cymerwyd llun o Kaye a cafodd ei gyfweld gan y newyddiadurwr Roger Ordish o'r Sunday Sport. Erlynodd y Sunday Sport, ond barnodd y Llys Apêl nad oedd unrhyw ateb yng nghyfraith Lloegr am ymyriad ar breifatrwydd unigolon. Gweler Kaye v Robertson.

Bu farw ar ddydd Llun 23 Ionawr 2017.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gorden Kaye (1952–59)". The Old Almondburians' Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-10. Cyrchwyd 6 Chwefror 2012.
  2. http://m.imdb.com/title/tt0088846/fullcredits/cast?ref_=m_ttfc_3
  3. "BFI database: King John, BBC, 1984". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-12. Cyrchwyd 2017-01-23.
  4. Andrew Hirst, "Examiner Community awards Lifetime award for Gorden Kaye", Huddersfield Daily Examiner, 28 Medi 2005.
  5. "Theatre: 'Allo 'Allo - What Went Wrong Here, Then?". 23 Mehefin 2007.
  6. René & me: An Autobiography (gyda Hilary Bonner).
  7. "On This Day: 25 January, 1990" - BBC Online
  8. http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-38718282

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]