Neidio i'r cynnwys

Golff (drama)

Oddi ar Wicipedia
Golff
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurWilliam R. Lewis Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1993 Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuCwmni Theatr Gwynedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama Gymraeg gan William R. Lewis yw Golff, a gomisiynwyd ac a lwyfanwyd am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1993.[1]

Ysgrifenwyd y ddrama ar gyfer yr actor o Fôn J.O Roberts, oedd yn hoffi Golff bron gystal â'r dramodydd ei hun!

Lleolir y ddrama yn Ashgrove Golf Range, Ynys Môn ym mis Gorffennaf 1992. Mae'n ddrama onest sy'n ymdrin mewn modd ddigyfaddawd â'r realiti a welodd y dramodydd o'i gwmpas nid yn unig ar Ynys Môn ar ddechrau'r 1990au, ond hefyd drwy Gymru benbaladr.

Morris yw'r prif gymeriad sy'n dyheu am sefydlu cwrs golff yn hen gartref y teulu, ond yn wynebu gwrthwynebiad chwyrn o bob cyfeiriad. Mae Morris hefyd yn hoffi rheoli pawb a phopeth. Rhoddwyd Golff yn deitl ar y ddrama am mai rhyw 'chwarae golff' â bywydau unigolion a wna Morris. Yn union fel y ceisia'r golffiwr reoli tynged pêl, ceisia Morris reoli tynged unigolion.

Yn ei Ragair i'r ddrama gyhoeddedig, eglura'r dramodydd gefndir y ddrama. 'Yn nechrau'r naw degau ym Môn, teimlai pobl fod llygredd gwleidyddol ar gynnydd. Defnyddir yr ymadrodd 'ar gynnydd' yn fwriadol, oherwydd gŵyr unrhyw un sy'n gyfarwydd â hanes fod llygredd o'r fath, mewn rhyw ffurf neu'i gilydd, yn bod erioed. Ond, gan amlaf, gwneid ymdrech fwriadol i'w gelu rhag llygaid y cyhoedd. Yr hyn a gythruddai pobl Môn oedd na wneid unrhyw ymdrech i wneud hyn: ymhyfrydai rhai unigolion yn eu llygredd. Ni theimlent wneud dim byd o'i le."

Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Golff 1993

Ysgrifennwyd y ddrama yn fwriadol yn nhafodiaeth Môn. Ychwanegodd William R. Lewis yn ei Ragair: 'Teimlwn yn ystod rhai perfformiadau o'r ddrama fod ieithwedd Morris, mewn rhyw ffordd ryfedd, yn cyfareddu cynulleidfa. Yr oeddwn yn lled obeithio y byddai hyn yn digwydd. Mae Morris yn meddu ar rywbeth a fawrygir ac a ddelfrydir yn y Gymru Gymraeg: dawn dweud. Mae'n eironig nad estroniaid yn aml sy'n halogi treftadaeth ac yn tanseilio gwerthoedd oesol ond Cymry Cymraeg hynod gyfoethog a lliwgar eu hiaith'.

Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Carreg Gwalch yn 2001.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Gwyneth - gwraig yn ei phum degau
  • Morris - ei gŵr, yn ei bum degau
  • Ceinwen - eu merch
  • Euros - gŵr ifanc, un ar hugain oed
  • Joyce - nyrs yn ei thridegau
  • Gruff - gweithiwr ar y maes golff, yn ei dri degau
  • Arwyn - cynghorydd a chyfaill Morris, yn ei bum degau

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfanwyd y ddrama'n wreiddiol gan Gwmni Theatr Gwynedd yn 2001. Cyfarwyddwr Graham Laker; cast:

Cast Cwmni Theatr Gwynedd o'r ddrama Golff ym 1993

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Lewis, William R. (2001). Golff. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-610-X.
  2. ↑ Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Golff 1993.