Golfan y Mynydd

Oddi ar Wicipedia
Golfan y Mynydd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Passeridae
Genws: Passer
Rhywogaeth: P. montanus
Enw deuenwol
Passer montanus
(Linnaeus, 1758)

Mae Golfan y Mynydd, Passer montanus, yn aelod o'r un teulu a'r Aderyn y To. Mae i'w gael yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac mewn rhannau o Asia. Mewn rhannau eraill o'r byd mae ambell boblogaeth o adar sydd wedi eu gollwng yn fwriadol, megis yn Awstralia a rhannau o Unol Daleithiau America.

Mae Golfan y Mynydd tua 12.5–14 cm o hyd, ychydig yn llai na'r Aderyn y To, sy'n edrych yn eithaf tebyg iddo. Gellir ei wahaniaethu trwy'r pen brown, y darn du ar y foch wen, y goler wen a dwy linell wen ar yr adenydd. Mae ei alwad hefyd ychydig yn wahanol. Yn wahanol i'r Aderyn y To, mae'r ddau ryw yn debyg i'w gilydd.

Fel rheol yn Ewrop mae'r Aderyn y To yn byw yn y trefi a'r pentrefi a Golfan y Mynydd yng nghefn gwlad, ond mewn rhannau o Asia mae yn byw mewn trefi hefyd. Ymddengys ei fod yn fwy parod i fyw mewn trefi mewn gwledydd lle nad yw Aderyn y To i'w gael. Er gwaethaf yr enw, nid yw'n aderyn mynydd.

Mewn tyllau y mae'n nythu, er enghraifft mewn coed neu graig, ac yn aml mae nifer o adar yn nythu gyda'i gilydd.

Yng Nghymru, mae niferoedd yr aderyn yma wedi lleihau yn sylweddol dros yr 50 mlynedd diwethaf, ac mae bellach yn aderyn eithaf prin yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Ar hyn o bryd mae yr RSPB a chyrff eraill yn ymdrechu i gynyddu'r nifer yn yr ardaloedd lle mae poblogaeth yn parhau, ac mae'n ymddangos fod hyn yn llwyddo.

Yr Enw[golygu | golygu cod]

Er gwaetha’i enw, does dim cysylltiad rhwng y golfan hwn a mynydd, sef y TREE sparrow. Onid oes adlais fan hyn o'r gwahanol dermau daearyddol? Ddywedwn i mai 'mynydd' yw'r gair sy'n cyfateb orau i moor! Wele'r holl 'fynyddau' ar lawr gwlad yn y de [ac ym Môn. Mae'r tebygrwydd i mount yn ein twyllo - pe tawn ni'n siarad Gwyddeleg mi allen uniaethu'n hytrach a monadh a'i ystyr. Diddorol deall mai ystyr monte yn Sbaeneg yw rhywbeth tebyg i forest - monte bajo: prysgwydd; monte alto: coedwig. Tir gwyllt, mewn geiriau eraill - ond wedyn, onid 'gwyllt' yw un o ystyron 'gwydd', eto fel yn y Wyddeleg fiadh? A forest ei hunan - onid 'tu faes' yw ei darddiad, sef y gwyllt?" I bob pwrpas felly: “golfan y ty” (house sparrow) a “golfan y tu fas” (tree sparrow)![1]

Dosbarthiad Golfan y Mynydd
Wyau
  1. Gwyn Jones ym Mwletin Llên Natur fhifyn 41