Golethr

Picws Du yn Sir Gaerfyrddin. Golethr yw'r llethr esmyth ar y chwith; llethr sgarp yw'r dibyn serth ar y dde.
Math o lethr ar wyneb y ddaear yw golethr.[1] Mae'n goleddfu i'r un cyfeiriad â strata y creigiau oddi tanodd. Yn gyffredinol, mae'r llethr yn hir ac yn raddol. Yn aml mae golethr yn cyd-fynd â llethr sgarp, sydd, mewn cyferbyniad eglur, yn sleisio trwy'r strata i ffurfio llethr llawer mwy serth.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur yr Academi, dip1 (8) > dip-slope.