Ffrisia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gogledd Ffrisia)
Jump to navigation Jump to search
Map sy'n dangos ardal hanesyddol Ffrisia ac ardaloedd lle siaredir Ffriseg heddiw.

Ardal hanesyddol yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen ar lannau Geneufor yr Almaen yw Ffrisia. Heddiw fe'i rhennir yn Fryslân yn yr Iseldiroedd ac Ostfriesland a Nordfriesland yn yr Almaen.[1] Ffrisia yw mamwlad y Ffrisiaid, sy'n siarad yr iaith Ffriseg.

Rhanbarthau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhennir Ffrisia yn dri rhanbarth: Gorllewin Ffrisia yng ngogledd yr Iseldiroedd, Gogledd Ffrisia yng ngogledd yr Almaen ar orynys Jutland, a Dwyrain Ffrisia yng ngogledd orllewin yr Almaen. Mae Ynysoedd Ffrisia yn ymestyn ar draws y tri rhanbarth.

Gorllewin Ffrisia[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Gorllewin Ffrisia, a fabwysiadwyd yn swyddogol gan dalaith Fryslân ym 1957. Mae ganddi bedwar stribed lletraws glas ar gefndir gwyn gyda lilïau dŵr coch (pompeblêd). Mae symbol y lili dŵr yn dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif, a defnyddiwyd y faner hon gan fudiadau Ffrisiaidd ers y 18eg ganrif.[2]

Mae ardal Gorllewin Ffrisia heddiw yn cyfateb i dalaith Fryslân yn yr Iseldiroedd. Mae'r iaith Ffriseg yn gryf yn yr ardal hon: yn 2007 roedd 74% yn gallu siarad yr iaith, 75% yn medru ei darllen, a 25% yn medru ei hysgrifennu. Mae chwaraeon gaeafol yn boblogaidd yng Ngorllewin Ffrisia, yn enwedig Fierljeppen a sglefrio iâ. Mae'r ardal yn fyd-enwog am y fuwch Ffrisiaidd a'r ceffyl Ffrisiaidd. Ymhlith prif drefi Gorllewin Ffrisia mae Franeker (Ffriseg: Frjentsjer), Harlingen (Harns), Het Bildt (It Bilt), Heerenveen (It Hearrenfean), Leeuwarden (Ljouwert), Smallingerland (Smellingerlân), a Sneek (Snits).[2]

Gogledd Ffrisia[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Gogledd Ffrisia, baner drilliw lorweddol o stribedi melyn, coch a glas: mae'n symboleiddio'r machlud haul ar Fôr Wadden. Daw'r lliwiau o arfbais Gogledd Ffrisia.[3]

Mae Gogledd Ffrisia (Almaeneg: Nordfriseland) heddiw yn rhan o dalaith Schleswig-Holstein yn yr Almaen. Yn hanesyddol mae dwy ardal i Ogledd Ffrisia: yr ardal gyfandirol ar orynys Jutland, a'r ardal sy'n cynnwys nifer o ynysoedd a gorynysoedd bychain gan gynnwys Söl, Feer, Öömrang, a Noordströön. Hyd 1864 roedd Gogledd Ffrisia yn rhan o Ddenmarc. Cafodd ei choncro gan yr Almaen a'i gwneud yn dair ardal: Südtondern, Husum, ac Eiderstedt. Unwyd y dair ardal ym 1970. Mae hanes y Ffrisiaid yn yr ardal hon yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 700. Siaredir Ffriseg yn frodorol gan 10,000 o drigolion Gogledd Ffrisia, a Mooringer Frasch yw'r brif dafodiaith. Ymhlith prif drefi Gogledd Ffrisia mae Wyk auf Föhr (Bi de Wik), Bredstedt (Bräist), Husum (Hüsem), Niebüll (Naibel), a Sylt (Söl).[3]

Dwyrain Ffrisia[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Dwyrain Ffrisia, baner drilliw lorweddol o stribedi du, coch a glas: lliwiau'r teuluoedd llywodraethol.[4]

Roedd Dwyrain Ffrisia yn dywysogaeth hunanlywodraethol hyd 1744. Mae pedair ardal gan Ddwyrain Ffrisia: Auerk, Emden, Lierre, a Wittmund. Mae ardaloedd Freesland, Wilhelmshaven ac Ammerland hefyd yn hanesyddol yn rhan o diriogaeth Ffrisia. Mae 700,000 o bobl yn byw yn Nwyrain Ffrisia. Ceir hefyd siaradwyr Ffriseg yn Saterland sy'n siarad y Saterlandeg. Prif iaith arall yr ardal yw tafodiaith Ffrisiaidd yr Isel Almaeneg. Mae diwylliant te cryf gan drigolion yr ardal hon, a Boßeln yw'r fabolgamp draddodiadol. Ymhlith prif drefi Dwyrain Ffrisia mae Ammerland, Aurich (Isel Almaeneg: Auerk), Emden, Leer, Norden (Nörden), Bad Zwischenahn (Twüschenahn), Wilhelmshaven (Willemshaven), Weener, Westerstede (Westerstäe), a Wittmund, ac yn Saterland Ramsloh (Saterlandeg: Roomelse), Scharrel (Schäddel), Sedelsberg (Seedelsbierich), a Strücklingen (Strukelje).[4]

Y Faner Holl-Ffrisiaidd, a gynigir yn 2007 gan Groep fan Auwerk i gynrychioli'r holl ardaloedd Ffrisiaidd: lili dŵr y gorllewin, y lliw melyn i'r gogledd a'r lliw glas i'r dwyrain.[5]
Baneri'r tri rhanbarth o Ffrisia yn chwifio tu allan i'r Gyngres Ryng-Ffrisiaidd yn Leck, Gogledd Ffrisia, yn 2006.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y pleidiau gwleidyddol rhanbarthol sy'n ymgyrchu dros gynrychiolaeth i'r Ffrisiaid yw Fryske Nasjional Partij (Y Blaid Genedlaethol Ffrisiaidd), De Friezen/Ddie Friesen (Y Ffrisiaid), Partij voor het Noorden (Plaid y Nordwyr), a Südschleswigsche Wählerverband (Undeb Schleswig y De).[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Frisia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mawrth 2014.
  2. 2.0 2.1 Bodlore-Penlaez, Mikael. Atlas of Stateless Nations in Europe (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 92.
  3. 3.0 3.1 Bodlore-Penlaez (2011), t. 94.
  4. 4.0 4.1 Bodlore-Penlaez (2011), t. 95.
  5. Bodlore-Penlaez (2011), t. 90.
  6. Bodlore-Penlaez (2011), t. 93.