Gogledd Clwyd (etholaeth seneddol y DU)
| Enghraifft o: | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
|---|---|
| Poblogaeth | 100,000 |
| Dechrau/Sefydlu | 4 Gorffennaf 2024 |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Mae etholaeth Gogledd Clwyd (Saesneg: Clwyd North) yn ethol aelod i senedd San Steffan. Fe'i crëwyd o rhannau o'r hen etholaethau Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd. Bydd yn ethol Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024 (4 Gorffennaf).[1][2]
Ffiniau
[golygu | golygu cod]Yn 2024 roedd yr etholaeth yn cynnwys yr ardaloedd a ganlyn:
Yn Sir Ddinbych:
- Bodelwyddan, Canol Dinbych, Dinbych Isaf, Dinbych Uchaf/ Henllan, Rhuddlan, Dwyrain y Rhyl, De'r Rhyl, De Ddwyrain y Rhyl, De Orllewin y Rhyl, Gorllewin y Rhyl, Dwyrain Llanelwy, Gorllewin Llanelwy, a Threfnant.
Yng Nghonwy:
- Abergele, Pensarn, Colwyn, Eirias, Gele, Glyn, Bae Cinmel, Llanddulas, Llandrillo yn Rhos, Llysfaen, Mochdre, Pentre Mawr, Rhiw, a Thowyn.
Aelodau Seneddol
[golygu | golygu cod]| Etholiad | Aelod | Plaid | |
|---|---|---|---|
| 2024 | Gill German | Llafur | |
Etholiadau
[golygu | golygu cod]Canlyniadau Etholiadau yn y 2020au
[golygu | golygu cod]| Etholiad cyffredinol 2024: Gogledd Clwyd[3] | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Llafur | Gill German | 14,794 | 35.5% | N/A | |
| Ceidwadwyr Cymreig | Darren Millar | 13,598 | 32.7% | N/A | |
| Reform UK | Jamie Orange | 7,000 | 16.8% | N/A | |
| Plaid Cymru | Paul Rowlinson | 3,159 | 7.6% | N/A | |
| Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig | David Wilkins | 1,685 | 4% | N/A | |
| Y Blaid Werdd | Martyn Hogg | 1,391 | 3.3% | N/A | |
| Mwyafrif | 1,196 | 2.8% | |||
| Nifer pleidleiswyr | 41,627 | 55.5% | |||
| Etholwyr cofrestredig | 75,027 | ||||
| Llafur yn cadw | Gogwydd | ||||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Arolwg Seneddol 2023 - Cynigion Diwygiedig", Y Comisiwn Ffiniau i Gymru; adalwyd 4 Mehefin 2024
- ↑ (Saesneg) "Clwyd North: New Boundaries 2023 Calculation", Electoral Calculus; adalwyd 4 Mehefin 2024
- ↑ BBC Cymru Fyw, Canlyniadau Gogledd Clwyd
Aberafan Maesteg · -->Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe · Alun a Glannau Dyfrdwy · Bangor Aberconwy · Blaenau Gwent a Rhymni · Bro Morgannwg · Caerfyrddin · Caerffili · Canol a De Sir Benfro · Castell-nedd a Dwyrain Abertawe · Ceredigion Preseli · De Caerdydd a Phenarth · Dwyfor Meirionnydd · Dwyrain Caerdydd · Dwyrain Casnewydd · Dwyrain Clwyd · Gogledd Caerdydd · Gogledd Clwyd · Gorllewin Abertawe · Gorllewin Caerdydd · Gorllewin Casnewydd ac Islwyn · Gŵyr · Llanelli · Maldwyn a Glyndŵr · Merthyr Tudful ac Aberdâr · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontypridd · Rhondda ac Ogwr · Sir Fynwy · Torfaen · Wrecsam · Ynys Môn
