Gofod un dimensiwn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mewn ffiseg a mathemateg, gall dilyniant o rifau nodi lleoliad mewn gofod n-ddimensiwn. Pan n = 1, gelwir y set o bob lleoliad o'r fath yn "ofod un-dimensiwn". Fe'i hysgrifennir hefyd fel gofod 1D a gofod un dimensiwn. Mae'r llinell rif yn enghraifft o ofod un-dimensiwn, lle gellir disgrifio lleoliad pob pwynt arno gan un rhif.[1]

Mewn geometreg algebraidd mae sawl strwythur sy'n dechnegol un-dimensiwn ond cyfeirir ato mewn termau eraill. Mae maes k yn ofod fector un-dimensiwn dros ei hun. Yn yr un modd, mae'r linell dafl (projective line neu "dafluniad y llinell") dros k yn ofod un-dimensiwn. Yn benodol, os yw k = ℂ, y rhifau cymhlyg, yna mae'r linell dafl cymhlyg P1(ℂ) yn un-dimensiwn mewn perthynas ag ℂ, er ei bod hefyd yn cael ei alw'n "sffêr Riemann".

Mae'r system gyfesurynol un dimensiwn yn cynnwys y linell rif a'r ongl.

Yn fwy cyffredinol, mae modrwy yn fodiwl un-hyd drosto'i hun. Yn yr un modd, mae'r linell dafl (neu "dafluniad y llinell") dros y fodrwy yn ofod un-dimensiwn dros y fodrwy. Pan fo'r fodrwy yn algebra dros faes, mae'r gofod yn un-dimensiwn mewn perthynas â'r algebra, hyd yn oed os yw'r algebra o ddimensiwn uwch.

Polytop[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr unig bolytop rheolaidd mewn gofod un-dimensiwn yw'r linell segment, gyad'r symbol Schläfli { }.

Hypersffêr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r hypersffêr mewn 1 dimensiwn yn bâr o bwyntiau,[2] a elwir weithiau'n "0-sffêr", gan fod ei arwyneb yn sero-dimensiwn. Ei hyd yw

lle mae yn radiws.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Пространство как математическое понятие; gan Д. Д. Гущин; cyhoeddwyd gan fmclass.ru; adalwyd 6 Mehefin 2015
  2. Gibilisco, Stan (1983). Understanding Einstein's Theories of Relativity: Man's New Perspective on the Cosmos. TAB Books. t. 89.