Coed-llai

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Goed-Llai)
Coed-llai
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCoed-llai a Pontblyddyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.133°N 3.095°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ267601 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Coed-llai a Pontblyddyn, Sir y Fflint, Cymru, yw Coed-llai[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Leeswood). Saif ger priffordd yr A5104, i'r de-ddwyrain o dref Yr Wyddgrug. Gerllaw mae Neuadd Pentrehobyn, tŷ sy'n dyddio o ddechrau'r 17g. Cyn 26 Ionawr 2016 "Coed-llai" oedd enw'r gymuned hefyd, ond "Coed-llai a Pontblyddyn" yw ei henw bellach.[3]

Yng nghyffiniau Coed-llai ceir pentrefi Pontybotgyn, Pontblyddyn a Choed-talon.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[5]

Hanes[golygu | golygu cod]

Does dim llawer o wybodaeth am hanes enw y pentref. Mae'r llyfr Leeswood Past and Present, 2005 yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am y pentref ac yn dangos cofnodion o'r hen enwau. Roedd y pentref yn ganolbwynt i Derfysg Yr Wyddgrug ym 1869. Yn ogystal â rheolwr y pyllau glo yn yr ardal, John Young o Durham, yn gwneud i bobl weithio am lai o gyflog, dywedodd na chaiff gweithwyr ddefnyddio'u Cymraeg wrth weithio. Roedd hyn yn ddigon i weithwyr Coed-llai a'r cyffiniau ddechrau terfysg yn erbyn eu triniaeth.

Yn y 18g, bu'r barwniaid Wynne yn byw yn Neuadd Coed-llai. Gellir dilyn eu llinach yn ôl at Owain Glyndŵr, ac yn ogystal felly, hen Deyrnasoedd Cymru. Adeiladwyd Gatiau Gwynion Coed-llai gan y brodyr Davies o Wrecsam yn y 18g. Crefft y brodyr oedd haearn.

Gatiau Gwynion Coed-llai yn Neuadd Coed-llai

Cynhelwyd Eisteddfod yno ym 1921, ac mae'r gadair yn cael ei chadw ym mynedfa'r ysgol gynradd.

Yn 2015, cynhelwyd Carnifal a Pharêd yng Nghoed-llai am y tro cyntaf wedi bwlch o chwe mlynedd ar hugain. Daeth tua 1,500 o bobl i weld yr achlysur yn ei wedd newydd.

Sillafiad yr Enw[golygu | golygu cod]

Mae llawer o sillafiadau gwahanol ar gael i'w gweld yng Nghoed-llai ac o'i chwmpas ond, yn ôl Geiriadur yr Academi a llyfrau eraill am enwau llefydd yng Nghymru, 'Coed-llai' ydyw'r sillafiad cywir.[6] Mae angen cyplysnod rhwng yr elfennau 'coed' a 'llai,' ac nid oes angen prif lythyren ar ddechrau'r gair 'llai'.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa yng nghymuned Coed-llai fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Coed-llai (pob oed) (2,135)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coed-llai) (323)
  
15.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coed-llai) (1282)
  
60%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Coed-llai) (286)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Addysg[golygu | golygu cod]

Yn y pentref mae'r ysgol gynradd, Ysgol Derwenfa.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
  3. (Saesneg) Leeswood Community Council, adalwyd 13 Ionawr 2022
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 809 [Leeswood].
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]