Godfrey Huggins

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Godfrey Huggins
Huggins.jpg
Ganwyd 6 Gorffennaf 1883 Edit this on Wikidata
Bexley Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Mai 1971 Edit this on Wikidata (87 oed)
Harare Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Malvern College Edit this on Wikidata
Galwedigaeth meddyg yn y fyddin, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Prime Minister of the Federation of Rhodesia and Nyasaland, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol United Federal Party Edit this on Wikidata
Tad Godfrey Huggins Edit this on Wikidata
Mam Emily Blest Edit this on Wikidata
Priod Blanche Elizabeth Slatter Edit this on Wikidata
Plant John Godfrey Huggins, 2nd Viscount Malvern of Rhodesia and Bexley, Martin James Huggins Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog-Cadlywydd Urdd St.Mihangel a St.Siôr Edit this on Wikidata

Gwleidydd oedd Godfrey Martin Huggins, Is-iarll 1af Malvern o Rodesia ac o Bexley (6 Gorffennaf 18838 Mai 1971) a fu'n Brif Weinidog De Rhodesia o 1933 i 1953 ac yn Brif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa o 1953 i 1956.

Ganed yn Bexley, Caint. Gweithiodd yn feddyg yn Llundain cyn iddo ymfudo ym 1911 i Salisbury yn neheubarth Rhodesia (bellach Harare, Simbabwe), pan oedd y diriogaeth honno dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Gweithiodd yn llawfeddyg yn Salisbury, a phan ddaeth De Rhodesia yn wladfa hunanlywodraethol ym 1923 fe'i etholwyd yn aelod o'r Cyngor Deddfwriaethol.[1]

Dan ei arweiniad, enillodd y Blaid Ddiwygio fwyafrif cymharol o seddi'r Cynulliad yn etholiad 1933, a phenodwyd Huggins felly yn Brif Weinidog De Rhodesia. Bu hefyd yn dal swydd ysgrifennydd dros faterion brodorol hyd at 1949. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1941, a fe'i elwir yn Syr Godfrey Huggins nes iddo dderbyn ei is-iarllaeth ym 1955.

Huggins oedd y prif arweinydd yn yr ymgyrch i gyfuno gwladfa De Rhodesia â phrotectoriaethau Gogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa, ac yn sgil ffurfio Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa ym 1953 enillodd ei Blaid Ffederal yr etholiad a fe'i penodwyd yn brif weinidog. Fe'i olynwyd yn brif weinidog y ffederasiwn gan Syr Roy Welensky ym 1956.

Bu farw yr Arglwydd Malvern yn Salisbury yn 87 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Godfrey Huggins, 1st Viscount Malvern. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Awst 2020.