Glyn Houston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Glyn Houston
Ganwyd 23 Hydref 1925 Edit this on Wikidata
Cwm Clydach Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Actor, Digrifwr, Milwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda The Blue Lamp Edit this on Wikidata

Actor Cymreig yw Glyn Houston (ganwyd 23 Hydref 1926), sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith teledu. Mae'n frawd iau i'r actor ffilm Donald Houston.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Houston yng Nghwm Clydach, Sir Forgannwg[1]. Fe wasanaethodd yn y fyddin yn ystod Yr Ail Ryfel Byd, ac am gyfnod byr roedd yn gomedïwr yn perfformio i filwyr yn ystod y rhyfel.[2] Fe wnaeth ei ymddangosiad ffilm gyntaf yn The Blue Lamp yn 1950.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Efallai mai rhan mwyaf nodedig Glyn Houston oedd fel yr asiant llenyddol "Duncan Thomas", yng nghomedi sefyllfa o'r 1980au Keep It in the Family. Fe ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau yn cynnwys The Great Game.[4]

Yn y 1970au fe chwaraeodd Bunter, gwas Lord Peter Wimsey gyferbyn Ian Carmichael mewn dramau teledu o sawl stori gan Dorothy Sayers. Fe ganmolwyd ei berfformiad yn y New York Times.[5] Yn ei feirniadaeth o ddramodiad storiau Harriet Vane gan y BBC yn yr 1980au, mae'r adolygydd Marvin Kitman yn dweud mewn camgymeriad fod Houston wedi ei gamgastio fel Bunter. Mewn gwirionedd, yr actor Richard Morant oedd yn portreadu'r cymeriad yn y gyfres honno.[6]

Mae perfformiadau eraill yn cynnwys My Good Woman (1973–1974), A Horseman Riding By (1978), Inspector Morse, It Ain't Half Hot Mum, Minder a Doomwatch, yn cynnwys y cymeriad  "Det Supt Jones" yn Softly, Softly.

Mae wedi ymddangos ddwywaith fel cymeriadau gwahanol yn Doctor Who — fel "Professor Owen Watson" yn The Hand of Fear (1976)[7] ac fel "Colonel Ben Wolsey" yn The Awakening (1984).[8] Yn 1979, fe chwaraeodd y Brawd Cadfael yn addasiad BBC Radio 4 o One Corpse Too Many.

Mae gan Houston dros ddau gant o gydnabyddiaethau teledu a ffilm,[1] yn dyddio mor gynnar â 1950.[9]

Enillodd Houston wobr arbennig BAFTA Cymru yn Ebrill 2008.[9] Fe gyhoeddodd hunan-fywgraffiad o'r enw Glyn Houston, A Black and White Actor yn Rhagfyr 2009.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Houston yn briod â'r actores a model Shirley Lawrence a chafodd ddau o blant.[3] Yn Mai 2000 fe ddadorchuddiodd Cofeb Lofaol yn ei ardal frodorol ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Fe arweiniodd y teyrngedau i'r miloedd o lowyr a ddioddefodd neu bu farw dros 150 mlynedd o gloddio ym maes glo De Cymru.[10]

Ffilmyddiaeth detholedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodyn:Cyfeiriadu

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1.0 1.1 1.2 BFI | Film & TV Database - Houston, Glyn
  • 2.0 2.1 WalesOnline - Lifestyle - Actor Glyn Houston opens up in new autobiography
  • 3.0 3.1 WalesOnline - News - South Wales Valleys - Actor Glyn Houston’s autobiography
  • WalesOnline - News - South Wales Valleys - Glyn Houston's book date
  • TV View: Sidekicks - Dimmer Than the Stars, Yet.
  • THE MARVIN KITMAN SHOW: Lord Wimpy's Dilettante Detectiving
  • BBC - Doctor Who Classic Series Episode Guide - The Hand of Fear
  • BBC - Doctor Who Classic Series Episode Guide - The Awakening
  • 9.0 9.1 WalesOnline - What's On - Actor Glyn Houston’s one regret
  • BBC News | Wales | Memorial marks mining tragedies
  • The Pittsburgh Press: 19 November 1953 - Google News Archive Search