Neidio i'r cynnwys

Glwcos

Oddi ar Wicipedia
Glwcos
Enghraifft o:grŵp o endidau isomeraidd Edit this on Wikidata
Mathaldohecsos Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₆h₁₂o₆ edit this on wikidata
Rhan oglucose binding, glucose metabolic process, glucose catabolic process, gluconeogenesis, response to glucose, sucrose catabolic process via 3'-ketosucrose, glycolytic fermentation to butanediol, glycolytic fermentation to ethanol, glucose catabolic process to D-lactate and ethanol, glucose fermentation to lactate and acetate, glucose catabolic process to lactate, glucose catabolic process to lactate via pyruvate, mixed acid fermentation, canonical glycolysis, transport-coupled glycolytic process through glucose-6-phosphate, glucose catabolic process to pyruvate, glucose catabolic process to pyruvate utilizing ADP, cellular response to glucose stimulus, poly(hydroxyalkanoate) biosynthetic process from glucose, glucose transmembrane transporter activity, glucose:proton symporter activity, glucose:sodium symporter activity, glucose transmembrane transport, glucose uniporter activity, glucose import, glucose import across plasma membrane, cellular glucose homeostasis, glucose catabolic process to butyrate, glucose homeostasis Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o siwgr sydd â'r strwythur cemegol C6H12O6 yw glwcos. Mae glwcos yn cael ei gynhyrchu gan blanhigion trwy'r broses ffotosynthesis: maen nhw'n defnyddio ynni o olau'r haul i'w greu o ddŵr a charbon deuocsid. Defnyddir glwcos gan blanhigion i wneud seliwlos, y carbohydrad mwyaf cyffredin yn y byd, ar gyfer cellfuriau. Ar ben hynny dyfnyddir glwcos gan bob organeb fyw i wneud adenosin triffosffad (ATP), sy'n darparu'r egni sy'n cyflenwi tanwydd ar gyfer llawer o brosesau mewn celloedd byw.[1][2][3]

Glwcos yw'r ffynhonnell ynni bwysicaf ym mhob organeb. Mewn planhigion mae glwcos yn cael ei storio yn bennaf fel amylos ac amylopectin, ac mewn anifeiliaid fel glycogen. Mae glwcos yn cylchredeg yng ngwaed anifeiliaid fel siwgr gwaed.[4]

Mae cael y swm cywir o glwcos ar gael yng nghorff person yn bwysig. Mae glwcos yn hanfodol er mwyn i'r ymennydd weithredu'n iawn. Gellir ei fesur trwy brawf gwaed syml. Mae gan bobl nad oes ganddynt ddigon o glwcos lefelau isel o siwgr gwaed. Dyma'r cyflwr iechyd o'r enw hypoglycemia. Mae gan bobl sydd â gormod o glwcos hyperglycemia. Yn aml mae hyn yn gysylltiedig â chyflwr iechyd diabetes.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "NCATS Inxight Drugs — DEXTROSE, UNSPECIFIED FORM". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.
  2. Kamide, Kenji (2005). Cellulose products and Cellulose Derivatives: Molecular Characterization and its Applications (yn Saesneg) (arg. 1st). Amsterdam: Elsevier. t. 1. ISBN 978-0-08-045444-3. Cyrchwyd 13 Mai 2021.
  3. "L-glucose". Biology Articles, Tutorials & Dictionary Online (yn Saesneg). 7 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2022. Cyrchwyd 6 Mai 2022.
  4. World Health Organization (2019). World Health Organization model list of essential medicines: 21st list 2019 (yn Saesneg). Geneva: World Health Organization. hdl:10665/325771. WHO/MVP/EMP/IAU/2019.06. License: CC BY-NC-SA 3.0 IGO.