Neidio i'r cynnwys

Glan yr Afon (theatr)

Oddi ar Wicipedia
Glan yr Afon
Mathcanolfan y celfyddydau, theatr, sinema Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolHydref 2004 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Hydref 2004 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5883°N 2.9936°W Edit this on Wikidata
Map

Glan yr Afon (Saesneg: The Riverfront) yw'r brif theatr a chanolfan gelfyddydau yn ninas Casnewydd. Mae wedi'i lleoli ar lan orllewinol Afon Wysg, ar lanfa'r Bristol Packet Wharf yng nghanol y ddinas. Cafodd y ganolfan, a ddyluniwyd gan y cwmni pensaernïol Austin-Smith:Lord, ei hagor ar 23 Hydref 2004.

Trafodwyd cynlluniau ar gyfer theatr mor gynnar â 1995,[1] ond cafodd y rhain eu gohirio oherwydd ad-drefnu awdurdodau lleol.

Yn y pen draw, lluniwyd cynlluniau ar gyfer y ganolfan gelfyddydau newydd i gyd-fynd â chais Casnewydd am statws dinas yn 2002, ac amcanwyd y byddai'n costio £15 miliwn. Cafodd y ganolfan gefnogaeth ar ffurf cyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.[2]

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Mai 2002, a chymerodd ddwy flynedd i'w gwblhau; cafodd y gwaith ei ohirio wedi darganfod llong o'r Oesoedd Canol yno.[1]

Agorwyd Glan-yr-afon yn swyddogol ar 23 Hydref 2004 gyda chyngerdd gan Katherine Jenkins a'r Royal Philharmonic Orchestra.[3]

Yn 2020, derbyniodd y theatr gyllid sefydlogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri Genedlaethol i ymdopi yn ystod achosion COVID-19 ac i uwchraddio ei systemau tocynnau.[1]

Pensaernïaeth ddadleuol

[golygu | golygu cod]

Disgrifiwyd dyluniad yr adeilad fel dathliad o ddadadeiladaeth yn arddull Zaha Hadid. Roedd ei dyluniad ar gyfer Tŷ Opera Caerdydd wedi cael ei wrthod ar ddechrau'r 21g.[1] Rhannodd y dyluniad farn pobl: enillodd wobr Adeilad y Flwyddyn yng Nghymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 a 2006, ond cododd amheuaeth hefyd ymhlith rhai o'r trigolion lleol.[1] Ym mis Mawrth 2004, daeth y Riverfront yn ail mewn pleidlais gyhoeddus i ddod o hyd i adeilad hyllaf Cymru.[3]

Cyfleusterau

[golygu | golygu cod]
Seddi yn y caffe canolog yn y ganolfan (2018)

Agorodd y ganolfan gyda theatr â lle i 482 o bobl,[3] a fu’n cyflwyno cymysgedd o gomedi, opera, dawns, cerddoriaeth a drama. Mae’r Stiwdio, sydd â lle i 128 o bobl, yn cynnig rhaglen fwy heriol o berfformiadau a ffilmiau. Mae’r tair ardal weithdy yn cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai celf, gan gynnwys gwaith cerameg a lluniadu o fodelau byw. Mae’r Stiwdio Ddawns yn cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai dawns a theatr, gan gynnwys salsa, breakdancing, sgiliau syrcas a theatr ieuenctid.

Yn ogystal â'r theatr ceir hefyd oriel gelf a bar sy'n cynnig bwyd.

Gŵyl Newydd

[golygu | golygu cod]

Yn 2023 dewiswyd Glan yr Afon fel lleoliad digwyddiad Gŵyl Newydd, sef gŵyl gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg a gynhelir yn flynyddol.[4] Cynhaliwyd yr ŵyl yno hyd nes 2025 pan symudodd i Rodney Parade.

Llong Casnewydd

[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd y ganolfan fel cartref i Long Casnewydd, llong o'r 15g a ddarganfuwyd wedi'i hymdrochi ym mwd yr Afon Wysg, er bod awgrymiadau bod y gofod yn yr islawr yn rhy fach i weld y llong yn ei chyfanrwydd.[5]

Y gred ydy bod y llong wedi ei hadeiladu naill ai yn ne orllewin Ffrainc, Gwlad y Basg neu ym Mhortiwgal a'i bod wedi ei defnyddio ar gyfer masnachu ar draws yr Iwerydd.[6]

Ond mae sut y daeth i aros ar wely'r afon yng Nghasnewydd yn parhau i fod yn ddirgelwch.

Darganfuwyd gweddillion y llong wrth gloddio ar gyfer ffos y gerddorfa yn y theatr. Mae'r llong tua 25 metr o hyd ac yn dyddio o 1465; cymharwyd pwysigrwydd y darganfyddiad â phwysigrwydd llong Duduraidd enwog, y Mary Rose. Yn ystod y gwaith cloddio dyluniwyd ac adeiladwyd gofod arddangos newydd ac helaeth o goncrit gwrth-ddŵr hunan-gywasgu o dan y cyntedd i gartrefu ac arddangos y darganfyddiadau. Fodd bynnag, dydy hyn heb ddod i'r fei am amryw resymau.

Ar 23 Awst 2002 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gwerth £2.5 miliwn i gloddio, cadw ac, yn y pen draw, arddangos Llong Casnewydd.

Mae'r llong bellach (2026) i'w gweld gan y cyhoedd mewn adeilad pwrpasol ar Ystâd Ddiwydiannol Leeway yn nwyrain y ddinas. Gall y cyhoedd ymweld â'r safle a cheir teithiau tywys ar wahanol adegau o'r flwyddyn.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 5 Birt, Elizabeth (27 Hydref 2019). "A look back at the history of the Riverfront Theatre as it celebrates its 15th birthday". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Ionawr 2022.
  2. ↑ Carr, Becky (22 Hydref 2014). "Newport's Riverfront Theatre celebrates 10th anniversary". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Ionawr 2022.
  3. 1 2 3 "New £16m theatre opens". BBC News. 23 Hydref 2004. Cyrchwyd 6 Ebrill 2015.
  4. ↑ "Mae gŵyl gelfyddydau a diwylliant Gymraeg Casnewydd, Gŵyl Newydd, yn dychwelyd i ganol y ddinas". Gwefan Celfyddydau Cymru. 12 Medi 2023. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
  5. ↑ Brentnall, Jenny (20 July 2006). "'Medieval ship too big for Riverfront'". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-27.
  6. ↑ "Cartref newydd dros dro i weddillion llong Casnewydd". BBC Cymru Fyw. 9 Rhagfyr 2014.
  7. ↑ "Newport Medieval Ship". Friends of the Newport Ship. Cyrchwyd 16 Medi 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato