Glan'rafon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Glan yr Afon)
Glan yr Afon
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,771 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.479°N 3.189°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001003 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMark Drakeford (Llafur)
AS/auKevin Brennan (Llafur)
Map

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Glan'rafon (Saesneg: Riverside).[1]

Roedd cymuned Glan'rafon yn cynnwys dwy ardal dra gwahanol, sef Pontcanna i'r gogledd o Cowbridge Road East a De Glan'rafon i'r de o'r ffordd honno. Ar lafar defnyddir 'Riverside' (neu 'Glan'rafon') gan amlaf i gyfeirio at yr ail o'r ardaloedd hyn. Roedd creu cymuned Pontcanna newydd yn 2016.[2]

Mae'r ardal i'r de o Cowbridge Road East yn cynnwys strydoedd o dai teras yn bennaf, ac fe'i nodweddir gan ei hamrywiaeth ethnig, gyda chymunedau sylweddol o bobl o dras Bangladeshaidd a Tseiniaidd, yn arbennig o gwmpas Tudor Street.

Er ei bod yn un a ardaloedd tlotaf Caerdydd, mae llawer i'w gynnig gan yr ardal, gyda nifer o siopau Tseiniaidd, Halal, Indiaidd, ac Indiaidd Gorllewinol yn gwerthu dewis eang o fwydydd. Mae Cymdeithas Marchnad Cymuned Glan'rafon wedi datblygu cryn dipyn yn y blynyddoedd diweddar, gan greu Marchnad ffermwyr ar gyfer pob dydd Sul, sydd wedi tyfu'n sylweddol.

Marchnad Cymuned Glan'rafon

Y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 13.7% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 1475 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd bach ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 13.4%.[3]

Ymysg y sefydliadau Cymraeg yn yr ardal, mae siop llyfrau Cymraeg 'Caban' ar Kings Road ac adwaenir tafarn y Mochyn Du (yng Ngerddi Sophia) yn dafarn sy'n denu llawer o gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

Agorodd capel Cymraeg yn Severn Road yn 1867 [1] Archifwyd 2015-02-08 yn y Peiriant Wayback.. Caeodd y capel hwnnw'n 1979 a mosg yw'r adeilad bellach.

Roedd dyfodiad stiwdio teledu HTV i Bontcanna, a gynhyrchodd raglenni Cymraeg, yn hwb i'r iaith yn yr ardal.

Llywodraeth[golygu | golygu cod]

Mae ward Glan'rafon yn rhan o etholaeth seneddol Gorllewin Caerdydd. Mae'n ffinio â Gabalfa i'r gogledd; Cathays i'r dwyrain; Grangetown i'r de; a Threganna a Llandaf i'r gorllewin.

Enwogion[golygu | golygu cod]


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Glan'rafon (pob oed) (13,771)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Glan'rafon) (1,808)
  
13.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Glan'rafon) (7437)
  
54%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Glan'rafon) (1,826)
  
29.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau diwylliannol[golygu | golygu cod]

Mae'r cerddor Gwenno yn cyfeirio at strydoedd mewn ardal Glan'rafon yn ei chân Despenser St, oddi ar yr Ymbelydredd EP.[8][9][10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; argraffwyd 2008; tudalen 117
  2. The City and County of Cardiff (Communities) Order – 2016 No. 1155 (W. 277) (PDF). Welsh Statutory Instruments. 2016.
  3. Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned Archifwyd 2015-01-06 yn y Peiriant Wayback.; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  8. https://soundcloud.com/gwenno/despenser-st[dolen marw]
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-28. Cyrchwyd 2015-01-25.
  10. http://caniadur.info/wici/Despenser_St[dolen marw]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato