Glampio

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
"Pentref" glampio gyda yurts, llwybrau gro a thwba twym

Mae Glamping yn gyfansoddair cywasgedig o'r gair Saesneg 'glamorous' a 'campio' (Cymreigiad o'r Saesneg 'glamping') sy'n disgrifio dull o wersylla gydag amwynderau ac, mewn rhai achosion, gwasanaethau cyrchfan heb fod yn gysylltiedig â gwersylla "traddodiadol". Mae glampio wedi dod yn arbennig o boblogaidd gyda thwristiaid yr 21ain ganrif sy'n chwilio am foethusrwydd llety gwesty ochr yn ochr â'r "ddihangfa ac antur o wersylla".[1][2][3][4]

Er bod y gair 'glampio' yn un cymharol ddiweddar, ceir llawer o enghreifftiau o wersylla moethus ar hyd y canrifoedd, yn arbennig ymhlith y bonedd.

Un enghraifft yw'r uwchgynhadledd diplomyddol, a elwir yn Maes y Brethyn Aur,a gynhaliwyd yng ngogledd Ffrainc yn 1520 rhwng Harri VIII o Loegr a Ffransis I o Ffrainc. Codwyd tua 2,800 o bebyll, ac roedd yno ffynhonnau o win coch.[5]

Mae nifer o wyliau mawr bellach yn cynnig cyfleusterau glampio i'r rhai sy'n eu mynychu.

Cafwyd cyfleusterau glampio (wedi'u darparu gan gwmni Best of Wales) yn gysylltiedig â maes gwersylla'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan gynhaliwyd yr brifwyl yn Meifod yn 2015.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lickus, Jay (11 March 2015). "Have You Ever Been 'Glamping?'". Huffington Post. http://www.huffingtonpost.com/jay-lickus/have-you-ever-been-glamping_b_6841122.html.
  2. Southerden, Louise (19 March 2015). "Six of the best: New Australian glamping camps". Sydney Morning Herald. http://www.traveller.com.au/six-of-the-best-new-australian-glamping-camps-12dty3.
  3. Devine, Darren (17 March 2015). "Glamping's yurts, podes and domes continue to lead way for Welsh tourism". Wales Online. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/glampings-yurts-podes-domes-continue-8863161.
  4. "'Glamping' brings creature comforts to outdoors". USA Today. 2011-08-04. http://travel.usatoday.com/destinations/story/2011/08/Go-glamping-in-the-Ohio-Wilds/49819754/1.
  5. Edward Hall's Chronicles
  6. "Glampio yn y Brifwyl". Golwg360.