Giuseppe Mazzini
Giuseppe Mazzini | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Mehefin 1805 ![]() Genova ![]() |
Bu farw | 10 Mawrth 1872 ![]() o Pliwrisi ![]() Pisa ![]() |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Eidal, Ymerodraeth Ffrengig Gyntaf ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, athronydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad llenyddol ![]() |
Swydd | aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal ![]() |
Plaid Wleidyddol | Young Italy ![]() |
Tad | Giacomo Mazzini ![]() |
Mam | Maria Drago ![]() |
llofnod | |
![]() |
Arweinydd gwleidyddol a gwladgarwr Eidalaidd oedd Giuseppe Mazzini (22 Mehefin 1805 – 10 Mawrth 1872). Bu ganddo ran bwysig yn y Risorgimento a arweiniodd at uno'r Eidal.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed Mazzini yn Genova, a oedd yr adeg honno yn rhan o Weriniaeth Ligwria a than reolaeth ymerodraeth Ffrainc. Roedd yn dad, Giacomo, yn Brifathro yn y Brifysgol. Aeth Giuseppe ei hun i'r brifysgol pan nad oedd ond 15 oed, a graddiodd yn y gyfraith yn 1826.
Yn 1830, teithiodd i Twscani, lle daeth yn aelod o fudiad y Carbonari. Carcharwyd ef yn Savona yr un flwyddyn. Wedi ei ryddhau, symudodd i ddinas Genefa yn y Swistir, yna yn 1831 i Marseille. Yno, ffurfiodd gymdeithas newydd, La giovine Italia ("Yr Eidal Ieuanc"), oedd yn anelu at uno gwladwriaethau'r Eidal yn un wlad.
Yn 1833 cynlluniwyd gwrthryfel, ond darganfuwyd y cynllun gan lywodraeth Savoia. Dienyddiwyd 12 o bobl, a chondemniwyd Mazzini i farwolaeth yn ei absenoldeb. Symudodd i Baris, yna i Lundain yn 1837. Gwnaed nifer o ymdrechion eraill i drefnu gwrthryfel. Ym 1848 aeth i Milan, lle roedd y boblogaeth wedi gwrthryfela yn erbyn y garsiwn Awstriaidd. Dechreuodd Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf yr Eidal, ond bu'n fethiant. Ymunodd Mazzini â byddin Giuseppe Garibaldi, ac aeth i'r Swistir gyda Garibaldi. Ar 9 Chwefror 1849, cyhoeddwyd Gweriniaeth Rhufain, a gorfodwyd Pab Pius IX i ffoi iGaeta. Daeth Mazzini i Rufain, lle daeth yn arweinydd y llywodraeth newydd, ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach, wedi i fyddin Ffrainc gefnogi'r Pab, bu raid iddo ddychwelyd i'r Swistir.
Ceisiodd drefnu nifer o wrthryfeloedd yn y blynyddoedd nesaf, ond heb lawer o lwyddiant. Bu farw yn Pisa yn 1872, a chladdwyd ef yn Genova, gyda 100,000 o bobl yn yr angladd.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- D. J. Williams, Mazzini (1954). Astudiaeth o safbwynt cenedlaetholdeb Cymreig.