Giovanni Della Casa

Oddi ar Wicipedia
Giovanni Della Casa
Portread o Giovanni Della Casa gan Pontormo (1541–44).
Ganwyd28 Mehefin 1503 Edit this on Wikidata
Mugello Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 1556 Edit this on Wikidata
Rhufain, Montepulciano Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, offeiriad, bardd, diplomydd Edit this on Wikidata
Swyddarchesgob Catholig, esgob, llysgennad y pab Edit this on Wikidata

Bardd, esgob, a diplomydd Eidalaidd oedd Giovanni Della Casa (28 Mehefin 150314 Tachwedd 1556) sydd yn nodedig am ei lyfr cwrteisi Il Galateo (1558).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Villa La Casa ger Borgo San Lorenzo ym Mugello, rhanbarth hanesyddol yng ngogledd Toscana, a oedd yn rhan o Weriniaeth Fflorens. Astudiodd ym mhrifysgolion Bologna, Fflorens, Padova, a Rhufain. Fe'i penodwyd yn Archesgob Benevento ym 1544 ac aeth i Fenis fel llysgennad y Pab Pawl III. Ym 1555 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd gwladol gan y Pab Pawl IV, ac y flwyddyn olynol bu farw ym Montepulciano, Gweriniaeth Siena, yn 53 oed.[1]

Gwaith[golygu | golygu cod]

O ran barddoniaeth, cyfansoddodd Giovanni Della Casa delynegion yn bennaf, ac yn ei ieuenctid ysgrifennai benillion dychanol yn null Francesco Berni. Ysgrifennodd hefyd weithiau gwleidyddol, gan gynnwys Orazioni politiche. Ei waith enwocaf ydy'r traethawd Il Galateo ar bwnc moesau, a ysgrifennwyd rhwng 1550 a 1555. Cyhoeddwyd Il Galateo yn gyntaf ym 1558.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Giovanni Della Casa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2021.