Gioconda Belli

Oddi ar Wicipedia
Gioconda Belli
Ganwyd9 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata
Managua Edit this on Wikidata
Man preswylSanta Monica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Nicaragwa Nicaragwa
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, dyddiadurwr, ysgrifennwr, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEl pergamino de la seducción Edit this on Wikidata
PerthnasauMatías Moldskred Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Casa de las Américas, Gwobr Cynhadledd y 27, Gwobr Barddoniaeth Ryngwladol Dinas Melilla, Premio Biblioteca Breve, Gwobr Sor Juana Inés de la Cruz, Gwobr Anna Seghers, Gwobr y llyfr gwleidyddol, Hermann Kesten, ‎chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Reina Sofía Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.giocondabelli.org Edit this on Wikidata

Awdures a bardd o Nicaragwa yw Gioconda Belli (ganwyd 9 Rhagfyr 1948) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nofelydd ac yn ymgyrchydd o fri.

Fe'i ganed yn Managua ar 9 Rhagfyr 1948 i deulu cyfoethog a hanai'n rhannol o dde'r Eidal. Aeth i ysgol breswyl yn Sbaen, lle graddiodd o Ysgol Frenhinol Santa Isabel ym Madrid, ac astudiodd hysbysebu a newyddiaduraeth yn Philadelphia. Pan ddychwelodd i Nicaragwa, priododd a chafodd ei merch gyntaf pan oedd yn 19 oed.[1][2]

Wedi iddi adael y coleg, fe'i cyflogwyd gan Pepsi-Cola, yn rhan o'r adran hysbysebu. Trwy un o'i chydweithwyr yn yr asiantaeth hysbysebu, cyfarfu Belli â Camilo Ortega, a gyflwynodd hi i'r Sandinistas ac ymunodd â'r grŵp. Yn 1970, ymunodd Belli â'r frwydr yn erbyn unbennaeth y teulu Somoza; cafodd ei derbyn yn rhan o'r mudiad gan Leana, gwraig Camilo. Cyhoeddwyd gwaith Belli ar gyfer y Mudiad ym Mecsico ym 1975.[3][4] Oherwydd ei haelodaeth o'r mudiad, a'i gwaith yn erbyn y Somoza, bu'n rhaid iddi ffoi am ei bywyd i Fecsico yn 1975.

Dychwelodd yn 1979 ychydig cyn buddugoliaeth Sandinista, a daeth yn gysylltydd y wasg ryngwladol (FSLN) ym 1982 a'r cyfarwyddwr cyfathrebu gwladol ym 1984. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyfarfu â Charles Castaldi, newyddiadurwr NPR Americanaidd, a phriododd y ddau yn 1987. Mae hi wedi bod yn byw yn Managua a Los Angeles ers 1990 ac mae bellach yn feirniadol iawn o'r llywodraeth bresennol.[5][6][7][8]

Y llenor[golygu | golygu cod]

Yn 1970, cyhoeddodd Belli ei cherddi cyntaf yn atodiad llenyddol un o bapurau newydd Nicaragwa, sef La Prensa. Ym 1972, enillodd wobr Premio de Poesía Mariano Fiallos Gil gan yr Universidad Nacional Autonoma de Nicaragua. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: El pergamino de la seducción.[9][10] [11]

Yn 1988, daeth llyfr Belli, La Mujer Habitada (The Inhabited Woman), â mwy o sylw iddi; cyhoeddwyd y llyfr hwn mewn sawl iaith a bu ar restr-ddarllen pedair prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Mae'r nofel yn dilyn dwy stori gyfochrog: y gwrthwynebiad brodorol i'r gwrthryfel Sbaeneg a modern yn Canolbarth America gyda nifer o bwyntiau cyffredin: rhyddid (a'r ymrwymiad i ryddid) menywod ac angerdd. Yn 2000, cyhoeddodd ei hunangofiant, El país bajo mi piel, gan ganolbwyntio ar ei rhan hi ei hun yn y mudiad chwyldroadol; cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg yn Unol Daleithiau America, dan y teitl The Country Under My Skin ac roedd yn y rownd derfynol am Wwobr Llyfrau Los Angeles Times yn 2003.[12] mae dal i gyhoedi, ac mae'n mynnu mai ei barddoniaeth yw ei gwaith gorau. Derbyniodd wobr y Premio Casa de las Américas yn 1978.[13]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Verse Sobre la grama (1972)
  • Línea de fuego (1978)
  • Truenos y arco iris (1982)
  • Amor insurrecto (1985)
  • De la costilla de Eva (1987)
  • La mujer habitada (1988)
  • Poesía reunida (1989)
  • Sofía de los presagios (1990)
  • El ojo de la mujer (1991)
  • Sortilegio contra el frío (1992)
  • El taller de las mariposas (1994)
  • Waslala (1996)
  • El país bajo mi piel (2001)
  • El pergamino de la seducción (2005)
  • El infinito en la palma de la mano (2008)
    • Infinity in the Palm of Her Hand, a gyfieithwyd gan Margaret Sayers Peden; HarperCollins (2009) ISBN 978-0-06-167364-1
  • El país de las mujeres (2010)
  • El intenso calor de la luna (2014)

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Iaith Nicaragwa am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Casa de las Américas (1978), Gwobr Cynhadledd y 27, Gwobr Barddoniaeth Ryngwladol Dinas Melilla, Premio Biblioteca Breve, Gwobr Sor Juana Inés de la Cruz, Gwobr Anna Seghers (1987), Gwobr y llyfr gwleidyddol (1989), Hermann Kesten (2018), ‎chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Reina Sofía (2023)[14] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Seaman, Donna. "Gioconda Belli's life as a Sandinista rebel". Chicago Tribune. Cyrchwyd 2007-11-21.
  2. Campbell, Duncan (2002-11-12). "Daughter of the revolution". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2017-09-10.
  3. Belli, Giaconda (2003). The Country Under My Skin. New York: Random House. t. 33. ISBN 0-375-40370-1.
  4. Halleck, Kenia (Winter 2001). "Gioconda Belli". BOMB Magazine 74. http://bombmagazine.org/article/2377/gioconda-belli. Adalwyd 2019-03-29.
  5. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12151907s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_33. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  7. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12151907s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  8. Dyddiad geni: http://web.archive.org/web/20160401152110/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/gioconda-belli. "Gioconda Belli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  9. "Biografia de Gioconda Belli". www.los-poetas.com. Cyrchwyd 2017-10-23.
  10. Belli, Giaconda (2003). The Country Under My Skin. New York: Random House. t. 42. ISBN 0-375-40370-1.
  11. Anrhydeddau: https://www.clarin.com/cultura/exiliada-espana-nicaraguense-gioconda-belli-gano-premio-reina-sofia-poesia_0_hPbgl5kBVM.html. dyddiad cyrchiad: 31 Mai 2023.
  12. "REVOLUTION: A User's Manual". The New York Public Library. Cyrchwyd 2008-02-13.
  13. "Comment, opinion and discussion from the Guardian US". the Guardian.
  14. https://www.clarin.com/cultura/exiliada-espana-nicaraguense-gioconda-belli-gano-premio-reina-sofia-poesia_0_hPbgl5kBVM.html. dyddiad cyrchiad: 31 Mai 2023.