Gilmore a Roberts
Gwedd
Mae Gilmore a Roberts yn ddeuawd werinol o De Swydd Efrog. Mae Katriona Gilmore yn chwarae ffidil a mandolin a Jamie Roberts yn chwarae gitar. Astudiodd y ddau yn Ngholeg Cerddoriaeth Leeds.[1] Maent wedi rhyddhau 5 CD ers 2008.[2]
Magwyd Katriona Gilmore yn Knebworth, Swydd Hertford Roedd hi’n aelod o Tiny Tin Lady, a daeth hi’n aelod o’r Albion Band yn 2011 ac wedyn o’r band The Willows yn 2011.[3]
Magwyd Jamie Roberts yn Barnsley, Swydd Efrog. Mae ei chwaer Kathryn Roberts yn gantores adnabyddus. Daeth o’n aelod o’r band Kerfuffle yn 2007, ffurfiodd y Dovetail Trio yn 2014, ac ymunodd â band Emily Askew yn 2016.[3]