Gianni Rodari
Gianni Rodari | |
---|---|
![]() Gianni Rodari yn y 1950au. | |
Ganwyd | 23 Hydref 1920 ![]() Omegna ![]() |
Bu farw | 14 Ebrill 1980 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Brenhiniaeth yr Eidal ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, addysgwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, bardd, addysgwr, awdur geiriau, ysgrifennwr ![]() |
Adnabyddus am | Gelsomino in the Country of Liars, The Adventures of the Little Onion, Q3822469, Q3774269, Q48804047 ![]() |
Arddull | llenyddiaeth plant ![]() |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Italy ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Hans Christian Andersen, Q117047351 ![]() |
Gwefan | http://www.giannirodari.it ![]() |
Awdur a newyddiadurwr Eidalaidd oedd Gianni Rodari (23 Hydref 1920 – 14 Ebrill 1980) sydd yn nodedig am ei lyfrau ffantasi i blant, gan gynnwys Il romanzo di Cipollino (1951).
Ganed yn Omegna yn nhalaith Verbano-Cusio-Ossola, Piemonte, yng ngogledd yr Eidal. Pobydd oedd ei dad. Derbyniodd dystysgrif addysgu ym 1938 yn Varese a gweithiodd hyd 1943 fel athro mewn ysgol gynradd. Yn y cyfnod hwn, arbrofai â thechnegau barddonol gyda'i ddisgyblion. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymaelododd â'r Blaid Ffasgaidd cyn troi at y Comiwnyddion ym 1944. Penodwyd yn olygydd ar gylchgrawn y Blaid Gomiwnyddol, Ordine nuovo. Bu'n ohebydd i'r papur newydd comiwnyddol L'Unità, ac yn ei ysgrifeniadau darparai ddeunydd i blant a oedd yn arbrofi â ffurf ac iaith.[1] Gweithiodd yn gyfarwyddwr i Il Pioniere, sefydliad ar gyfer plant o deuluoedd adain-chwith, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn i blant Il Pioniere o 1950 i 1953 a'r cylchgrawn i rieni Il Giornale dei genitori o 1968 i 1977.[2] Ym 1958 dechreuodd olygu'r papur newydd dyddiol Paese Sera, a chyfrannodd nifer fawr o erthyglau ei hun ar bynciau diwylliant, addysg a seicoleg yn ogystal ag adolygiadau o lyfrau plant i'r cyhoeddiad hwnnw.[3]
Trwy gydol ei yrfa, cyhoeddodd Rodari ryw 25 o lyfrau i blant, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth. Bu nifer o'r rheiny yn seiliedig ar ddeunydd a gyhoeddwyd ganddo mewn cylchgronau a phapurau newydd ers tro. Priodolir iddo gyflwyno cerddi dwli i farddoniaeth plant Eidaleg, dan ddylanwad awduron swrealaidd Ffrangeg a thraddodiad llên ddwli Lloegr.[3] Enillodd sawl gwobr lenyddol yn yr Eidal am ei waith, gan gynnwys y Premio Prato ym 1960 am y casgliad o rigymau Filastrocche in cielo e in terra (1960), y Premio Castello ym 1963 am Gip nel televisore (1962), y Premio Europa Dralon ym 1967 a'r Premio Castello ym 1968 am La torta in cielo (1966), a'r Premio Rubino ym 1968 am Il libro degli errori (1964).[4]
Enillodd Rodari Wobr Hans Christian Andersen am Ysgrifennu ym 1970, y wobr lenyddol uchaf ei bri ar gyfer llenyddiaeth plant. Yn y gyfrol Grammatica della fantasia (1973), esbonia Rodari ei ddulliau o gyfuno'r dychymyg a digrifwch â'i amcan i addysgu plant.[2] Bu farw yn Rhufain yn 59 oed.[4] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd y gyfrol o'i newyddiaduraeth Il cane di Magonza (1982).[2]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Il libro delle filastrocche (1950).
- Il romanzo di Cipollino (1951).
- Il viaggio della Freccia Azzurra (1954).
- Le avventure di Cipollino (Rhufain: Editori Riuniti, 1956). Darluniwyd gan Raul Verdini.
- Gelsomino nel paese dei bugiardi (1958).
- Filastrocche in cielo e in terra (Torino: Einaudi, 1960). Darluniwyd gan Bruno Munari.
- Gip nel televisore (Milan: Mursia, 1962). Darluniwyd gan Giancarlo Carloni.
- Favole al telefono (Torino: Einaudi, 1962). Darluniwyd gan Bruno Munari.
- Il libro degli errori (1964).
- La torta in cielo (Torino: Einaudi, 1966). Darluniwyd gan Bruno Munari.
- Venti storie più una (1969).
- Tante storie per giocare (1971).
- Novelle fatte a macchina (1973).
- Grammatica della fantasia (1973).
- Turista in Cina (Rhufain: Il Rinnovamento, 1974).
- C'era due volte il barone Lamberto (1978).
- Il cane di Magonza (1982).
- Filastrocche per tutto l'anno (Rhufain: Editori Riuniti, 1986). Darluniwyd gan Emanuele Luzzati.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Maurice Sendak, a enillodd Wobr Hans Christian Andersen am Ddarlunio yn yr un flwyddyn â Rodari
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Eidaleg) Emanuele Trevi, "RODARI , Gianni", Enciclopedia Italiana (Treccani, 1994). Adalwyd ar 20 Mawrth 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Eidaleg) "Rodari, Gianni", Enciclopedia on line (Treccani). Adalwyd ar 20 Mawrth 2021.
- ↑ 3.0 3.1 Eva Glistrup, The Hans Christian Andersen Awards, 1956–2002 (Basel: IBBY, 2002), t. 42.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) "Rodari, Gianni 1920-1980" yn Contemporary Authors. Adalwyd ar 10 Mawrth 2021.
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- M. Argilli, Gianni Rodari. Una biografia (Torino, 1990).
- P. Boero, Una storia, tante storie. Guida all'opera di Gianni Rodari (1992).
- C. Bonardi, Bibliografia delle opere di Gianni Rodari e degli scritti critici a lui dedicati (Fflorens, 1981).
- Addysgwyr Eidalaidd
- Beirdd Eidalaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg
- Beirdd plant
- Comiwnyddion Eidalaidd
- Genedigaethau 1920
- Golygyddion Eidalaidd
- Llenorion plant Eidalaidd
- Llenorion straeon byrion Eidalaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg
- Marwolaethau 1980
- Newyddiadurwyr Eidalaidd
- Nofelwyr Eidalaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg
- Nofelwyr plant
- Pobl o Piemonte