Neidio i'r cynnwys

Ghislaine Maxwell

Oddi ar Wicipedia
Ghislaine Maxwell
Gweplun Ghislaine Maxwell yn MDC Brooklyn yn 2022.
Ganwyd25 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
Maisons-Laffitte Edit this on Wikidata
Man preswylRhydychen, Dinas Efrog Newydd, Belgravia, Manchester-by-the-Sea, Bradford, Federal Prison Camp, Bryan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcymdeithaswr, person busnes Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe TerraMar Project Edit this on Wikidata
TadRobert Maxwell Edit this on Wikidata
PartnerJeffrey Epstein Edit this on Wikidata

Cyn-gymdeithaswraig o Loegr, gyda dinasyddiaeth Brydeinig, Ffrengig, ac Americanaidd,[1] yw Ghislaine Noelle Marion Maxwell (/ɡiːˈlɛn/ ganed 25 Rhagfyr 1961) a gafwyd yn euog yn 2021 o fasnachu plant er mwyn eu camdrin yn rhywiol a throseddau eraill mewn cysylltiad â'i chyn-gariad a phartner proffesiynol, yr ariannwr a throseddwr rhyw Jeffrey Epstein, a fu farw yn 2019.[2] Yn 2022, cafodd ei dedfrydu yn yr Unol Daleithiau i garchar am 20 mlynedd.[3][4]

Ganed hi Ddydd Nadolig 1961 ym Maisons-Laffitte, cymuned yn département Yvelines, Ffrainc, yn ferch i'r dyn busnes Robert Maxwell, Iddew a aned yn Tsiecoslofacia ac a ymsefydlodd ym Mhrydain, a'i wraig Elisabeth, Ffrances o dras Hiwgenotaidd. Cafodd Ghislaine ei magu yn Rhydychen, yn y ffydd Anglicanaidd, ac yno astudiodd hanes modern ac ieithoedd yng Ngholeg Balliol. Yn ei hieuenctid, daeth yn aelod amlwg o gylchoedd cymdeithasol Llundain. Gweithiodd i'w thad hyd at ei farwolaeth ym 1991. Wedyn, symudodd i Efrog Newydd i gymdeithasu â chylchoedd uchaf y ddinas honno, ac yno magodd berthynas agos â Jeffrey Epstein.[5] Ochr yn ochr ag Epstein, adeiladodd Maxwell rwydwaith cymdeithasol helaeth yn cynnwys aelodau amlwg yr elît.[6] Mae dogfennau a ryddhawyd gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn datgelu ei bod wedi cynnal cyfeillgarwch â Naomi Campbell, Andrew Mountbatten-Windsor, Bill Clinton, a Kerry Kennedy.[7][8]

Yng Ngorffennaf 2020, arestiwyd Maxwell gan yr FBI a chafodd ei chyhuddo gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau o sawl trosedd yn ymwneud â denu pobl dan oed a'u masnachu er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol yn gysylltiedig â'i pherthynas ag Epstein,[9][10] hynny yw, recriwtio merched ar ei gyfer.[11][12] Gwrthodwyd mechnïaeth iddi oherwydd y risg y byddai'n ffoi, gyda'r barnwr yn mynegi pryder ynghylch ei chyllid "hollol aneglur", ei gallu i fyw'n gudd, a'r ffaith nad yw Ffrainc yn estraddodi ei dinasyddion.[13] Yn Rhagfyr 2021 fe’i cafwyd yn euog o bump o'r chwe chyhuddiad yn ei herbyn, gan gynnwys un o fasnachu plentyn ar gyfer rhyw.[14][15][16]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Davis O'Brien, Rebecca; Paul, Deanna (2 July 2020). "Jeffrey Epstein Associate Ghislaine Maxwell Arrested on Federal Charges". The Wall Street Journal. ISSN 0099-9660. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 July 2020. Cyrchwyd 3 July 2020.
  2. Hays, Tom; Neumeister, Larry (29 December 2021). "Ghislaine Maxwell convicted in Jeffrey Epstein sex abuse case". AP News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 December 2021. Cyrchwyd 30 December 2021.
  3. Hymes, Clare (3 Ionawr 2022). "Jury finds Ghislaine Maxwell guilty on charges tied to Jeffrey Epstein's sex trafficking ring". CBS News. Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  4. Bekiempis, Victoria (28 Mehefin 2022). "Ghislaine Maxwell sentenced to 20 years in prison for sex trafficking crimes". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ionawr 2024. Cyrchwyd 28 Mehefin 2022.
  5. Twohey, Megan; Bernstein, Jacob (15 July 2019). "The 'Lady of the House' Who Was Long Entangled With Jeffrey Epstein". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 July 2019. Cyrchwyd 15 July 2019.
  6. Trujillo, Laura. "She's inmate No. 02879-509 in Florida. But once again, Ghislaine Maxwell is holding court". USA Today. Cyrchwyd 19 November 2025.
  7. Egwuonwu, Nnamdi (22 August 2025). "Justice Department releases Ghislaine Maxwell interview transcript and audio file". NBC News.
  8. Hill, James (22 August 2025). "What Ghislaine Maxwell told deputy AG about former President Bill Clinton". ABC News.
  9. "Ghislaine Maxwell, Accused of Providing Girls for Jeffrey Epstein, Arrested in N.H." New Hampshire Public Radio. 2 July 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 July 2020. Cyrchwyd 2 July 2020.
  10. Dukakis, Ali. “Reporter's Notebook: Ghislaine Maxwell's arrest shocks rural New Hampshire town”, ABC News (25 June 2021).
  11. Schneier, Matthew (15 July 2019). "Ghislaine Maxwell, The Socialite on Jeffrey Epstein's Arm". The Cut. Cyrchwyd 1 October 2024.
  12. Hill, James; Madden, Pete (14 July 2020). "Ghislaine Maxwell, Epstein's alleged recruiter, under investigation in US Virgin Islands". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2020. Cyrchwyd 14 July 2020.
  13. Orden, Erica (14 July 2020). "Ghislaine Maxwell is denied bail as judge says risks of fleeing 'are simply too great'". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2020. Cyrchwyd 14 July 2020.
  14. Hays, Tom; Neumeister, Larry (29 December 2021). "Ghislaine Maxwell convicted in Epstein sex abuse case". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2021. Cyrchwyd 29 December 2021.
  15. Cohen, Luc (29 December 2021). "Ghislaine Maxwell convicted of setting up girls for Epstein sex abuse". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2021. Cyrchwyd 29 December 2021.
  16. del Valle, Lauren (29 December 2021). "Jury finds Ghislaine Maxwell sex trafficked a minor for Jeffrey Epstein, guilty on five of six counts". CNN US. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2021. Cyrchwyd 29 December 2021.