Gerddi Linda Vista
Math | parc ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Y Fenni ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.821°N 3.0237°W ![]() |
![]() | |
Parc bychan yn y Fenni, Sir Fynwy, yw Gerddi Linda Vista. Dechreuodd y parc fel gardd i dŷ preifat, Linda Vista House (Linda Vista = "Golygfa Hardd" yn Sbaeneg), a adeiladwyd yn 1875 gan Henry Jenkins. Brodor o’r Fenni oedd Jenkins a wnaeth, ynghyd â’i frodyr William a John, ei ffortiwn yn y diwydiant adeiladu yn Tsile. Ar ôl iddo ddychwelyd i'w dref enedigol, adeiladodd fila a chreu y gerddi o'i chwmpas.
Daeth y gerddi dan berchnogaeth gyhoeddus yn 1957. Wedi hynny, cawsant eu hymestyn, i gynnwys peth o'r tir yn Nolydd y Castell, a gwnaed gwaith ailblannu helaeth. Mae'r parc yn cynnwys nifer o goed sbesimen gwych. Mae Gerddi Linda Vista wedi’u cofrestru'n Radd II ar Gofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Cadw.[1]
Rheolir y parc gan Gyngor Sir Fynwy.
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Linda Vista Gardens, Abergavenny", Cofnod Coflein