Gerddi Clun
Math | gardd fotaneg, gardd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5959°N 4.0032°W ![]() |
![]() | |

Mae Gerddi Clun yn ardd fotaneg sydd wedi'i lleoli yn Abertawe, Cymru. Fe'i lleolir oddi ar Heol y Mayals, ger yr heol arfordirol rhwng Abertawe a'r Mwmbwls.
Atyniadau[golygu | golygu cod]
Lleolir Castell Clun yng Ngerddi Clun hefyd. Mae'r gerddi'n cynnwys 19 hectar o dir a thros 2,000 o blanhigion, gan gynnwys dros 800 o rhododendrons.
Mae'r gerddi'n cynnwys nant, gerddi corsiog botanaidd a choedwig Normanaidd.
Mae Magnolia talaf y Deyrnas Unedig wedi ei leoli yno. Mae'r goedwig derw yn mynd yn ôl i gyfnod Coedwig Clun, a oedd yn fan Normanaidd hanesyddol pwysig yn ystod yr 11g.
Datblygwyd y gerddi gan y teulu Vivian yn y cyfnod Fictorianaidd.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gerddi Clun (gwefan y perchnogion) Archifwyd 2009-08-19 yn y Peiriant Wayback.
- BBC: Gerddi Clun Archifwyd 2006-02-18 yn y Peiriant Wayback.
- The garden Landscape Guide: Clyne Gardens
- Visit Wales: Clyne Gardens Archifwyd 2007-02-11 yn y Peiriant Wayback.
- www.geograph.co.uk : lluniau o Erddi Clun