Gerald Kaufman
| Gerald Kaufman | |
|---|---|
| Ganwyd | Gerald Bernard Kaufman 21 Mehefin 1930 Leeds |
| Bu farw | 26 Chwefror 2017 |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, sgriptiwr, newyddiadurwr |
| Swydd | Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Father of the House, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Shadow Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, beirniad Gwobr Booker |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Gwobr/au | Marchog Faglor |
| Gerald Kaufman | |
|---|---|
| Tad y Tŷ | |
| Yn ei swydd 7 Mai 2015 – 26 Chwefror 2017 | |
| Rhagflaenwyd gan | Peter Tapsell |
| Dilynwyd gan | Kenneth Clarke |
| Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Pwyllgor Treftadaeth Cenedlaethol: 1992–1997 | |
| Yn ei swydd 1992–2005 | |
| Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
| Dilynwyd gan | John Whittingdale |
| Ysgrifennydd Tramor Cysgodol | |
| Yn ei swydd 13 Gorffennaf 1987 – 24 Gorffennaf 1992 | |
| Arweinydd | Neil Kinnock |
| Rhagflaenwyd gan | Denis Healey |
| Dilynwyd gan | Jack Cunningham |
| Ysgrifennydd Cartref Cysgodol | |
| Yn ei swydd 31 Hydref 1983 – 13 Gorffennaf 1987 | |
| Arweinydd | Neil Kinnock |
| Rhagflaenwyd gan | Roy Hattersley |
| Dilynwyd gan | Roy Hattersley |
| Ysgrifennydd Gwlad Cysgodol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig | |
| Yn ei swydd 8 Rhagfyr 1980 – 31 Hydref 1983 | |
| Arweinydd | Michael Foot |
| Rhagflaenwyd gan | Roy Hattersley |
| Dilynwyd gan | Jack Cunningham |
| Is-Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd | |
| Yn ei swydd 8 Mawrth 1974 – 12 Mehefin 1975 | |
| Teyrn | Elizabeth II |
| Prif Weinidog | Harold Wilson |
| Dilynwyd gan | Ernest Armstrong |
| Aelod Seneddol dros Manceinion Gorton | |
| Yn ei swydd 9 Mehefin 1983 – 26 Chwefror 2017 | |
| Rhagflaenwyd gan | Kenneth Marks |
| Dilynwyd gan | Gwag |
| Mwyafrif | 24,079 (57.3%) |
| Aelod Seneddol dros Manceinion Ardwick | |
| Yn ei swydd 18 Mehefin 1970 – 9 Mehefin 1983 | |
| Rhagflaenwyd gan | Leslie Lever |
| Dilynwyd gan | Diddymwyd yr etholaeth |
Gwleidydd Llafur Prydeinig oedd Syr Gerald Bernard Kaufman (21 Mehefin 1930 – 26 Chwefror 2017) a wasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) o 1970 hyd ei farwolaeth yn 2017, yn gyntaf ar gyfer Manceinion Ardwick ac yna ar gyfer Manceinion Gorton. Roedd yn weinidog yn y llywodraeth yn y 1970au ac aelod o'r Cabinet Cysgodol yn y 1980au. Daeth yn Dad y Tŷ ar ôl ymddeoliad Peter Tapsell yn 2015. Ar adeg ei farwolaeth, fe oedd yr AS hynaf yn eistedd yn Senedd y DU.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Kaufman yn Leeds, y ieuengaf o saith o blant i Louis a Jane Kaufman. Roedd ei rieni yn Iddewon a ddaeth o wlad Pwyl cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Leeds, a graddiodd gyda gradd mewn athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg o Brifysgol Rhydychen (Coleg y Frenhines). Yn ystod ei amser yno, roedd yn Ysgrifennydd Clwb Llafur, lle ataliodd Rupert Murdoch rhag sefyll ar gyfer y swydd oherwydd ei fod wedi torri rheolau y Gymdeithas yn erbyn canfasio.[1]
Roedd yn ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol y Cymdeithas y Ffabiaid (1954-55), awdur ar y Daily Mirror (1955-64) ac yn newyddiadurwr ar y New Statesman (1964-65). Roedd yn Swyddog Cyswllt Seneddol i'r Wasg ar gyfer y Blaid Lafur (1965-70) ac yn y pen draw daeth yn aelod o "gabinet cegin" anffurfiol Prif Weinidog Harold Wilson.[2]
Cystadlodd Kaufman mewn dau sedd yn aflwyddiannus, sedd Bromley yn erbyn y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 1955, a Gillingham yn etholiad cyffredinol 1959.
Daeth yn awdur, a chyfrannodd at rhaglen gomedi dychan y BBC That Was The Week That Was yn 1962 a 1963,[3][4] lle y cofir fwyaf am y sgets "dynion tawel San Steffan". Ymddangosodd fel gwestai ar ei olynydd, Not So Much a Programme, More a Way of Life.
Bu'n gadeirydd y Booker Prize beirniaid yn 1999.[5]
Ar 26 Chwefror 2017, cyhoeddwyd bod Kaufman wedi marw.[6]
Aelod o'r Senedd
[golygu | golygu cod]Etholwyd Kaufman yn AS ar gyfer Manceinion Ardwick yn etholiad cyffredinol 1970; newidiodd etholaeth i Manchester Gorton yn etholiad 1983, yn dilyn y newidiadau mawr yn y ffiniau seneddol y flwyddyn honno. Parhaodd fel AS ar gyfer Gorton hyd ei farwolaeth.[7] Roedd yn weinidog iau drwy gydol y cyfnod yr oedd Llafur mewn grym rhwng 1974 a 1979, yn gyntaf yn yr Adran Amgylchedd (1974-75) o dan Anthony Crosland, ac yna yn yr Adran Ddiwydiant o dan Eric Varley (y Gweinidog Gwladol, 1975-79). Gwnaed ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1978. Ar ôl ei hail-ethol i Dŷ'r Cyffredin yn 2015, yn union cyn ei 85 pen-blwydd, daeth yn Dad y Tŷ.[8]
Cabinet Cysgodol
[golygu | golygu cod]Yn yr wrthblaid, roedd Kaufman yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd Cysgodol (1980-83), Ysgrifennydd Cartref Cysgodol (1983-87) ac Ysgrifennydd Tramor Cysgodol (1987-92). Fe alwodd maniffesto adain-chwith y Blaid Lafur ar gyfer etholiad 1983 "y nodyn hunanladdiad hiraf mewn hanes".[9] Yn 1992 aeth i'r meinciau cefn a daeth yn Gadeirydd ar yr hyn oedd ar y pryd yn Bwyllgor Dethol ar Dreftadaeth Genedlaethol.[10]
Ôl-feinciwr dylanwadol
[golygu | golygu cod]Bu'n gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar gyfer Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gynt y Pwyllgor Dethol ar Dreftadaeth Genedlaethol (1992-2005), ac yn aelod o Bwyllgor Seneddol y Blaid Lafur Seneddol (1980-92), Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur (1991-92), ac o'r Comisiwn Brenhinol ar Ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi (1999). Yn 1997, beirniadodd Kaufman Prif Weithredwr u Tŷ Opera Brenhinol ar y pryd, Mary Allen, dros honiadau o gamymddwyn ariannol, a arweiniodd yn y pen draw at ei ymddiswyddiad.[11]
Pleidleisiodd Kaufman ddwywaith yn erbyn Chwip y blaid Lafur – y tro cyntaf ar y ddarpariaeth yn y Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 i gyflwyno gofyniad ychwanegol [12] yn y broses ar gyfer erlynyddion preifat sy'n ceisio gael gwarant i arestio am droseddau "awdurdodaeth fyd-eang" fel troseddau rhyfel, artaith a throseddau yn erbyn dynoliaeth; ac yr ail dro yn erbyn y Bil Diwygio Lles 2015.[13] Pleidleisiodd gyda'r llywodraeth ar yr ymosodiad ar Irac yn 2003 gan ddweud yn y Senedd "Even though all our hearts are heavy, I have no doubt that it is right to vote with the Government tonight".[14]
Cafodd ei urddo'n farchog am wasanaethau i'r Senedd yn Anrhydeddau Pen-Blwydd y Frenhines 2004 .[15]
Ar 25 Mai 2010, yn ystod dadl Araith y Frenhines, cyhuddodd Kaufman ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei etholaeth yn ystod etholiad 2010, Qassim Afzal, o redeg "ymgyrch etholiadol gwrth-Semitaidd, ac yn bersonol wrth-Semitaidd" ym Manceinion Gorton.[16]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys:
- How to Live Under Labour (1964) fel cydawdur
- The Left: A symposium (1966) fel golygydd
- To Build the Promised Land (1973)
- How to be a Minister (1980) ISBN 0-571-19080-4
- Renewal: Labour's Britain in the 1980s (1983) fel golygydd
- My Life in the Silver Screen (1985)
- Inside the Promised Land (1986)
- Meet Me in St Louis, Sefydliad Ffilm Prydeinig (1994) ISBN 9780851705019
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kynaston, David (2009). Family Britain 1951-7. London: Bloomsbury. t. 102. ISBN 9780747583851.
- ↑ "Obituary: Gerald Kaufman". BBC News. 27 Chwefror 2017. Cyrchwyd 27 Chwefror 2017.
- ↑ The Papers of Sir Gerald Kaufman Archifwyd 2017-02-05 yn y Peiriant Wayback Churchill Archives Centre, Cambridge; the National Register of Archives, London and Janus Project, December 2006
- ↑ The International Who's Who 2004 Google Books
- ↑ "The Man Booker Prize 1999". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-27. Cyrchwyd 27 Chwefror 2017.
- ↑ "Labour MP Gerald Kaufman dies at 86 – BBC News". BBC Online. Cyrchwyd 26 Chwefror 2017.
- ↑ "Manchester Gorton". London: The Guardian. May 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-22. Cyrchwyd 2017-02-27.
- ↑ "Sir Gerald Kaufman is the new Father of the House". UK Parliament. 13 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-28. Cyrchwyd 27 Chwefror 2017.
- ↑ Mann, Nyta (14 July 2003). "Foot's message of hope to left". BBC News Online. Cyrchwyd 18 January 2009.
- ↑ "Members of the Committee". The Daily Telegraph. 14 January 2003. Cyrchwyd 27 Chwefror 2017. More than one of
|work=a|newspaper=specified (help) - ↑ "Last act at the Royal Opera?". The Daily Telegraph. 28 Mawrth 1998. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-27. Cyrchwyd 27 Chwefror 2017. More than one of
|work=a|newspaper=specified (help) - ↑ Middle East Monitor 22 Sep 2011.
- ↑ Rickhuss, Roy. "48 MPs break whip to vote against welfare bill – full list | LabourList". Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2015.
- ↑ Department of the Official Report (Hansard), House of Commons, Westminster (26 Chwefror 2003). House of Commons Hansard for 26 Feb 2003 (pt 16). The Stationery Office Ltd. ISBN 0-215-65029-8. Cyrchwyd 18 Ionawr 2009.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "No. 57315". The London Gazette (invalid
|supp=(help)). 12 Mehefin 2004. - ↑ Mason, Rowena (3 Tachwedd 2015). "Gerald Kaufman's 'Jewish money' remarks condemned by Corbyn". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2016. Cyrchwyd 1 Hydref 2016.