Gerald Williams, Yr Ysgwrn

Oddi ar Wicipedia
Gerald Williams, Yr Ysgwrn
GanwydGerald Robert Williams Edit this on Wikidata
6 Chwefror 1928 Edit this on Wikidata
Yr Ysgwrn Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 2021 Edit this on Wikidata
Yr Ysgwrn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffermwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYr Ysgwrn Edit this on Wikidata
PerthnasauHedd Wyn Edit this on Wikidata

Amaethwr a 'cheidwad Yr Ysgwrn' oedd Gerald Robert Williams (6 Chwefror 192911 Mehefin 2021).[1] Roedd yn nai i'r bardd Hedd Wyn a bu'n ffermio'r Ysgwrn drwy gydol ei fywyd.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gerald ar fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd yn 1929, yn fab i Ann (1903-1934), chwaer Hedd Wyn, ac Ifor Williams (1900-1973). Roedd yn un o bedwar o blant, a pan fu farw eu mam yn ifanc, magwyd Gerald a'i frawd hŷn Ellis (1927-1998) gan eu Nain a'u Taid, sef rhieni Hedd Wyn. Roedd ganddo hefyd frawd iau, Reg (1930-2002) a chwaer, Malo. Derbyniodd ei addysg yn Nhrawsfynydd a Blaenau Ffestiniog, cyn dychwelyd i'r Ysgwrn i helpu ei Daid a'i ewythrod ar y fferm.

Ar ddymuniad ei Nain, gwnaeth Gerald ac Ellis "gadw drws Yr Ysgwrn yn agored" gan groesawu unrhyw ymwelwyr a ddaeth i'r fferm i dalu teyrnged i Hedd Wyn. Datblygodd y ffermdy a'r Gadair Ddu yn gofeb heddychlon, diwylliannol. Roedd Gerald ei hun yn gymeriad ffraeth oedd wrth ei fod yn adrodd yr hanes wrth ymwelwyr o bob oed a chefndir.[3]

Prynwyd yr Ysgwrn yn 2012 gan Barc Cenedlaethol Eryri, a roedd Gerald yn rhan allweddol o'r gwaith datblygu ar y ffermdy. Ei arwyddair oedd "cartref, nid amgueddfa", a bu’n cadw llygad ar bob agwedd o'r gwaith er mwyn sicrhau bod naws y cartref ddim yn mynd ar goll.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Derbyniodd Gerald Williams anrhydedd am ei wasanaeth oes yn 2013, pan dderbyniodd MBE ar riniog yr Ysgwrn. Yn 2018, derbyniodd Wobr Arbennig yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru am ei wasanaeth i Gymru yn yr Ysgwrn.[4]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Gerald Williams y tu allan i'r Ysgwrn yn 2009

Bu farw yng nghwmni ei deulu yn ei gartref - Yr Ysgwrn, Trawsfynydd yn 92 mlwydd. Roedd yn gadael ei wraig Elsa a'i chwaer Malo.

Cafwyd teyrnged gan Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Diwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod Gerald yn "ymhyfrydu yng nghwmni pobl a byddai gweld plant a phobl ifanc yn ddiffael yn ymddiddori yn hanes ei ddewythr wrth fodd ei galon. Gwnaeth Gerald Williams gyfraniad unigryw i ddiwylliant Cymru a braint oedd ei alw'n ffrind".[2]

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. "Roedd Gerald yn gymeriad hoffus, croesawgar, craff ac unigryw, a gyffyrddodd galonnau llawer, ac a ddaeth fel teulu estynedig i sawl aelod o staff. Ni fydd ymweliad â’r Ysgwrn yr un fath eto, a bydd y golled i’w theimlo yn fawr."

Yn dilyn gwasanaeth preifat yn ei gartref, cynhaliwyd gwasanaeth claddedigaeth ym Mynwent Pencefn, Trawsfynydd am 11.45yb ar ddydd Llun, 21 Mehefin 2021. Teithiodd y ceir angladd yno drwy Trawsfynydd a chael seibiant byr ger Cofeb Hedd Wyn.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. “Ffarmio drw’r ffenast” fydd Gerald yr Ysgwrn ar ei ben-blwydd yn 90 , Golwg360, 5 Chwefror 2019. Cyrchwyd ar 21 Awst 2021.
  2. 2.0 2.1 Gerald Williams, Ceidwad Yr Ysgwrn, wedi marw , Golwg360, 11 Mehefin 2021.
  3. Tributes to 'unique character' who kept alive memory of Welsh poet Hedd Wyn (en) , Daily Post, 11 Mehefin 2021.
  4.  Gerald Williams MBE. Llywodraeth Cymru (20 Mawrth 2018). Adalwyd ar 11 Mehefin 2021.
  5.  Hysbyseb marwolaeth Gerald Williams. Daily Post (16 Gorffennaf 2021). Adalwyd ar 21 Awst 2021.