Geraint Lewis
Geraint Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 3 Ebrill 1960 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, actor |
Awdur, dramodydd ac actor o Gymro sy'n hanu o Dregaron, Ceredigion, yw Geraint Lewis (ganwyd 3 Ebrill 1960). Graddiodd mewn Saesneg a Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1981. Bu’n ysgrifennu yn llawn amser ers 1984, yn bennaf ar gyfer y teledu.
Roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Cymru a Chôr Ieuenctid Prydain. Yn yr 1980au bu'n actio mewn sawl cynhyrchiad teledu, gan gynnwys Bowen a’i Bartner, Coleg, HAFoc, Dihirod Dyfed, Yr Achos Hwn, BB, Tu Chwith, East of the Moon, Pris y Farchnad, Minafon, Y Cyfle Olaf a Jabas yn ogystal a lleisio’r prif gymeriad "Inspector Gadget" mewn dros 30 pennod o’r cartŵn.
Bu’n gyfrifol am ysgrifennu nifer o gyfresi comedi poblogaidd, gan gynnwys Annwyl Angharad, Daniel Turner, Ynte!, Slac yn Dynn ac Er Mwyn Tad a’r ffilm gomedi Smithfield. Ysgrifennodd sawl cyfres i blant, gan gynnwys Yr Enwog Wmffre Hargwyn a'r Meicrosgop Hud a bu’n aelod o dimau sgriptio Dinas a Mwy Na Phapur Newydd, yn ogystal â storïo a sgriptio Pobol y Cwm ac Iechyd Da.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Annwyl Angharad
- Daniel Turner, Ynte!
- Slac Yn Dynn
- Er Mwyn Tad
- Smithfield
- Yr Enwog Wmffre Hargwyn
- Meicrosgop Hud
- Dinas
- Mwy Na Phapur Newydd
- Pobol Y Cwm
- Iechyd Da
- Teulu
- SOS Galw Gari Tryfan
- Arwyr
Llwyfan
[golygu | golygu cod]- Y Cinio
- Y Groesffordd (1996) Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996
- The Language of Heaven
- Meindiwch Eich Busnes
- Ysbryd Beca
- Dosbarth (2002) Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002
- Dysgu
- Cold Caller
- Dysgu Hedfan
- Perci/Parciau
- Paradwys (2017)
- Cof (2017)
- Byd Donna Tan Y Pandy (2024)
Radio
[golygu | golygu cod]- Dilyn Yr Alwad
- Silicon
- Morys Y Gwynt
- Cyrraedd Pen Llanw
- Mamgu - Y Stand-Yp
- Wimbledon
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae ganddo dri mab ac mae'n byw yn Aberaeron gyda'i wraig Siân.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geraint Lewis - Ysgrifennwr". www.geraintlewis.net. Cyrchwyd 2024-08-31.