Prifysgol Georg August Göttingen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Georgia Augusta)
Prifysgol Göttingen
ArwyddairIn publica commoda Edit this on Wikidata
Mathcampus university, Stiftungshochschule, prifysgol gyhoeddus, comprehensive university Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSiôr II, brenin Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1734 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGöttingen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau51.53398°N 9.93792°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganSiôr II, brenin Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Prifysgol ymchwil gyhoeddus a leolir yn Göttingen, yn nhalaith Niedersachsen, yr Almaen, yw Prifysgol Göttingen, yn llawn Prifysgol Georg August Göttingen (Almaeneg: Georg-August-Universität Göttingen, a elwir yn anffurfiol Georgia Augusta). Hon yw'r brifysgol hynaf yn Niedersachsen, a phrifysgol fwyaf y dalaith honno yn nhermau'r nifer o fyfyrwyr. Cydnabyddir yn un o brifysgolion enwocaf ac uchaf ei bri yn Ewrop, ac yn gynrychiolydd o sefydliadau deallusol hanesyddol yr Almaen. Mae ganddi ryw 31,600 o fyfyrwyr.

Fe'i sefydlwyd ym 1734 gan Siôr II, Brenin Prydain Fawr ac Etholydd Hanofer, gyda'r nod o hyrwyddo syniadau a delfrydau'r Oleuedigaeth, ac agorodd i fyfyrwyr ym 1737. Yn niwedd y 18g, dyma oedd canolfan y "Göttinger Hain", cylch o feirdd natur a serch yn yr oes sentimental a ragflaenai Rhamantiaeth. Can mlynedd wedi iddi agor ei drysau, ym 1837, trawyd ergyd i enw'r brifysgol pan gafodd saith o athrawon eu diswyddo am resymau gwleidyddol.[1]

Yn ôl arddangosfa swyddogol a gynhelwyd yn 2002, bu 44 o enillwyr Gwobrau Nobel yn gysylltiedig â Phrifysgol Göttingen, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr, aelodau'r staff, ac ymchwilwyr, yn eu plith y ffisegwyr Max Born, James Franck, Werner Heisenberg, a Max von Laue.[2] [3]

Mae Prifysgol Göttingen yn aelod o U15 (grŵp o brif brifysgolion ymchwil yr Almaen) a Grŵp Coimbra (prif prifysgolion ymchwil Ewrop), ac ynghynt fe'i cefnogwyd gan Fenter Rhagoriaeth Prifysgolion yr Almaen. Mae ganddi gysylltiadau agos â sefydliadau ymchwil eraill yn Göttingen, gan gynnwys Cymdeithas Max Planck a Chymdeithas Leibniz. Mae Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen—llyfrgell y brifysgol a llyfrgell ganolog Niedersachsen—yn un o lyfrgelloedd mwyaf yr Almaen, a chanddi 9 miliwn o eitemau, ac yn un o lyfrgelloedd ymchwil pwysicaf y byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) University of Göttingen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mai 2023.
  2. "Das Göttinger Nobeopreiswunder". Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen (SUB). Cyrchwyd 21 May 2022.
  3. "The Göttingen Nobel Prize Wonder". University of Göttingen. Cyrchwyd 21 Mai 2022.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]