Neidio i'r cynnwys

George P. Owen (cynhyrchydd)

Oddi ar Wicipedia
George P. Owen
GanwydGeorge Prydderch Owen Edit this on Wikidata
1934 Edit this on Wikidata
Ty'n y Gongl Edit this on Wikidata
Bu farw9 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
Ysbyty Athrofaol Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, bardd, dramodydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBBC Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Bardd, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr drama gyda BBC Cymru oedd George P. Owen neu George Prydderch Owen (1934 – 9 Hydref 2011)[1] a fu'n "Swyddog Drama" i'r Eisteddfod Genedlaethol o 1991 hyd 2011.[2][3] Bu'n gynhyrchydd a chyfarwyddwr allweddol yn natblygiad y ddrama Gymraeg ar deledu Cymru o'r 1960au hyd at gychwyn S4C yn y 1980au.

Fe'i ganwyd a'i magwyd yn Ty'n y Gongl, Ynys Môn, gyda'i rieni yn cadw'r siop yn y pentref. Mynychodd Goleg y Drindod, Caerfyrddin lle y bu'n aelod o dim buddugol cystadlaethau areithio'r BBC.[4] Bu hefyd yn aelod o gwmni drama Bro Goronwy yn y 1950au a lwyfannodd nifer o ddramâu.[5]

Treuliodd gyfnod yn Y Fyddin ynghanol y 1950au.[6]

Bu farw yn Ysbyty'r Brifysgol Caerdydd ar 9 Hydref 2011 yn 77 mlwydd oed.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â Nest [Williams] (1930 – 2011) ers 25 Medi 1965, ac yn fab i John Owen (1898 – 1990) ac Edith [Prydderch] (1900 – 1968).[1]. Mae gan Owen un ferch, Elenid.[3]

Gwaith ddethol

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]
  • Yr Ysgol (1974) cynhyrchydd[18]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Deg i Dragwyddoldeb (1972) cyfieithiad
  • Pennod yn y gyfrol Theatr y Cyfryngau - "Cyfarwyddo drama deledu" (1979)
  • Yr Aflwydd (2002) cyfieithiad o ddrama John Chapman, Nil by Mouth [heb ei chyhoeddi]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Gwefan Ancestry".
  2. ↑ "Appointments". Aberdare Leader. 18 Gorffennaf 1991.
  3. 1 2 3 "Click here to view the tribute page for GEORGE OWEN". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Medi 2026.
  4. ↑ "Benllech". Y Clorianydd. 26 Mawrth 1958.
  5. ↑ "Newyddion Rhosgoch". Y Clorianydd. 9 Ionawr 1952.
  6. ↑ "Llanfair M.E". Y Clorianydd. 3 Hydref 1956.
  7. ↑ Williams, Arthur (17 Tachwedd 1973). "Welsh play for West End". Liverpool Daily Post.
  8. ↑ "Tom Richards play for Welsh viewers". The Stage. 9 Gorffennaf 1964.
  9. ↑ "Welsh-speaking detective returns". The Stage. 14 Ionawr 1965.
  10. ↑ Williams, Arthur (13 Ebrill 1966). "Serial produces high acting". Liverpool Daily Post.
  11. ↑ "Newyddion BBC". Y Clorianydd. 11 Hydref 1966.
  12. ↑ "a record number of actors in welsh". The Stage. 27 Gorffennaf 1967.
  13. ↑ "Gwefan IMDB".
  14. ↑ "Regions contribute to play". The Stage. 18 Gorffennaf 1968.
  15. ↑ "Welsh TV preview". Liverpool Daily Post. 3 Hydref 1975.
  16. ↑ "Rivals and Comrades". Liverpool Daily Post. 7 Mawrth 1973.
  17. ↑ "Preview for Wales". Liverpool Daily Post. 17 Medi 1973.
  18. ↑ "Animal magic by BBC Wales". Liverpool Daily Post. 28 Awst 1974.
  19. ↑ "Programme man for Four in Wales". The Stage. 22 Hydref 1981.