Genesis and Exodus

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Saesneg Canol yw Genesis and Exodus a ysgrifennwyd yn Norfolk yng nghanol y 13g., mewn 4,000 o linellau ar ffurf cwpledi sy'n odli. Aralleiriad Beiblaidd ydyw sy'n adrodd hanes cynnar y byd, yn ôl dau lyfr cyntaf y Beibl, o'r creu hyd at farwolaeth Moses, a hynny ar ffurf boblogaidd. Yn ogystal â llyfrau Genesis ac Exodus, mae'r gwaith yn tynnu ar y casgliad Lladin Historia Scholastica gan y Ffrancwr Petrus Comestor.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 391.