Neidio i'r cynnwys

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958

Oddi ar Wicipedia
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958
Enghraifft o:digwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1958 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadCaerdydd, Parc yr Arfau Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrhwyfo yng Ngemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958 Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03xs53 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Campau94
Seremoni agoriadol18 Gorffennaf
Seremoni cau26 Gorffennaf
<  V VII  >
Stamp 3d a gyhoeddwyd adeg y Gemau yn 1958

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958 oedd y chweched tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caerdydd, Cymru oedd cartref y Gemau rhwng 8–26 Gorffennaf ond cafodd cystadlaethau rhwyfo'r Gemau eu cynnal ar Lyn Padarn, Llanberis a chynhaliwyd y cystadlaethau codi pwysau yn Y Barri.

Gyda 1,358 o athletwyr a swyddogion o 35 o wledydd, dyma oedd y Gemau mwyaf hyd yma gyda 10 o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf. Hefyd cyflwynwyd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines am y tro cyntaf, arferiad cyn pob un o'r Gemau ers 1958.

Dyma oedd ymddangosiad olaf De Affrica yn y Gemau hyd nes diwedd cyfnod apartheid wedi i'r wlad dynnu allan o'r Gymanwlad ym 1961.

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Cafwyd 35 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1958 gyda Brwnei, Dominica, Gibraltar, Gogledd Borneo, Jersey, Malta, Sarawak, St Vincent, Singapôr ac Ynys Manaw yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

[golygu | golygu cod]
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1Baner Lloegr Lloegr29222980
2Baner Awstralia Awstralia27221766
3 De Affrica1310831
4Baner Yr Alban Yr Alban55313
5Baner Seland Newydd Seland Newydd46919
6 Jamaica4217
7Baner Pacistan Pacistan15210
8Baner India India2103
9 Singapôr2002
10 Canada1101627
11Baner Cymru Cymru13711
12Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon1135
13 Bahamas1102
Barbados1102
15 Malaya0202
16 Nigeria0112
17 Guiana Prydeinig0101
Wganda0101
19 De Rhodesia0033
20 Cenia0022
21Baner Ghana Ghana0011
Ynys Manaw0011
Trinidad a Tobago0011
Cyfanswm9494104292

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Roedd 123 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
AurHoward WinstoneBocsioPwysau bantam
ArianMalcolm CollinsBocsioPwysau plu
ArianRobert HigginsBocsioPwysau is-drwm
ArianJohn MerrimanAthletau6milltir
EfyddDon SkeneBeicio10milltir
EfyddDonald BraithwaiteBocsioPwysau pry
EfyddBill BrownBocsioPwysau is-ganol
EfyddRoger PleaceBocsioPwysau trwm
EfyddJ Preston
M.V. Kerslake
J.J. Evans
J McCombe
a R.A. Maunder
FfensioFfoil i dimau
EfyddJ Preston
R.A. Maunder
M.V. Kerslake
T.R. Lucas
a J Preston
FfensioSabre i dimau
EfyddDavid Edwards
John Fage
David Prichard
a John Edwards
RhwyfoPedwarawd heb cox

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Vancouver
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Perth