Neidio i'r cynnwys

Gemau'r Gymanwlad 2014

Oddi ar Wicipedia
20fed Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol23 Gorffennaf
Seremoni cau3 Awst
<  XIX XXI  >
Gemau'r Gymanwlad 2014
Enghraifft o:digwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad2014 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd23 Gorffennaf 2014 Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Awst 2014 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadGlasgow Edit this on Wikidata
RhanbarthStrathclyde Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.glasgow2014.com/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/079n7j edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.

Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.

Seremoni Agoriadol

[golygu | golygu cod]

Un o nodweddion fwyaf y seremoni agoriadol, ac un oedd ychydig yn heriol, oedd dewis y gân Freedom Come-All-Ye yn drefn. O gofio hanes Y Gymanwlad a rôl y frenhiniaeth ynddi, roedd perfformio cân weriniaethol a gwrth-imperialaidd a chenedlaetholgar Albanaidd gref, gan Hamish Henderson yn ddewis annisgwyl. Perfformiwyd y gân gan y soprano o Dde Affrica, Pumeza Matshikiza.[1] Dewisiwyd Matshikiza gan fod cyfeiriad at dreflan Nyanga yn y gân - treflan ddu a fu'n ymladd yn erbyn effeithiau apartheid.

Uchafbwyntiau'r Gemau

[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Ciribati i gipio ei medal cyntaf erioed yn Ngemau'r Gymanwlad wrth i David Katoatau ennill medal aur yng nghategori 105 kg y Codi pwysau[2] a casglodd Kirani James fedal aur cyntaf Grenada yn y 400m i ddynion ar y trac Athletau. Y nofiwr o Dde Affrica, Chad le Clos, gasglodd y nifer fwyaf o fedalau wrth iddo ennill dwy fedal aur, un arian a phedair efydd.[3] Patricia Bezzoubenko o Ganada gafodd y nifer fwyaf o fedalau aur wrth iddi gipio pum medal aur ac un medal efydd yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig.[4]

Daeth perfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig hefyd wrth i Francesca Jones gipio un medal aur a phum medal arian yn ogystal â Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau.[5]

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Roedd 70 o'r 71 o wledydd yn y Gymanwlad yn Ngemau'r Gymanwlad 2014 gyda Gambia yn tynnu yn ôl o'r Gemau ac o'r Gymanwlad ym mis Hydref 2013[6]

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Roed 233[7] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.

Medal Enw Cystadleuaeth
AurFrancesca JonesGymnasteg rhythmigRhuban
AurNatalie PowellJiwdoMerched 58 kg
AurJazz CarlinNofio800m Dull rhydd merched
AurGeorgia DaviesNofio50m Dull cefn merched
AurGeraint ThomasBeicioRas Lôn Dynion
ArianFrancesca Jones
Laura Halford
Nikara Jenkins
Gymnasteg rhythmigAmryddawn (tîm)
ArianFrancesca JonesGymnasteg rhythmigAmryddawn unigol
ArianElena AllenSaethuSgît
ArianFrancesca JonesGymnasteg rhythmigCylch
ArianFrancesca JonesGymnasteg rhythmigPastynau
ArianFrancesca JonesGymnasteg rhythmigPêl
ArianGeorgia DaviesNofio100m Dull cefn
ArianElinor BarkerBeicioRas pwyntiau 25 km
ArianAled DaviesAthletauDisgen F42/44
ArianSally PeakeAthletauNaid bolyn merched
ArianJazz CarlinNofio200m Dull rhydd merched
EfyddLaura HalfordGymnasteg rhythmigAmryddawn unigol
EfyddCalum JarvisNofio200m Dull rhydd
EfyddMatt Ellis
Ieuan Williams
BeicioRas tandem yn erbyn y cloc
EfyddLaura HalfordGymnasteg rhythmigPêl
EfyddElinor BarkerBeicioRas "scratch"
EfyddMichaela BreezeCodi PwysauMerched 58 kg
EfyddJack ThomasNofio200m Dull rhydd S14
EfyddMark ShawJiwdo100 kg Dynion
EfyddPaul Taylor
Jonathan Tomlinson
Mark Wyatt
Bowlio lawntTriawd
EfyddRhys JonesAthletau100m dynion T37
EfyddCraig PillingResloRhydd 57 kg
EfyddLizzie Beddoe
Georgina Hockenhull
Jessica Hogg
Angel Romaeo
Raer Theaker
GymnastegAmryddawn (tîm)
EfyddDaniel JervisNofio1500m Dull rhydd
EfyddGeraint ThomasBeicioTreial amser dynion
EfyddSean McGoldrickBocsioPwysau bantam
EfyddNathan ThorleyBocsioPwysau trwm ysgafn
EfyddGeorgina HockenhullGymnastegTrawst
EfyddAshley WilliamsBocsioPwysau pryf ysgafn
EfyddJoseph CordinaBocsioPwysau ysgafn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.heraldscotland.com/news/13171590.the-games-opens-a-ceremony-of-gallusness-with-a-powerful-charity-theme/
  2. "Glasgow 2014: David Katoatau claims first ever Ciribati medal published=BBC Sport". 30 Gorffennaf 2014.
  3. "Chad le Clos reaches seven medal target". The Citizen. 30 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2015. Cyrchwyd 10 Awst 2014.
  4. "Patricia Bezzoubenko wins 6th medal at Commonwealth Games". CBC. 26 Gorffennaf 2014.
  5. "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". Golwg360. 4 Awst 2014.
  6. "The Gambia withdraw from Glasgow 2014". Daily Mail Online. 7 Hydref 2013.
  7. "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". WalesOnline. 2014-07-04.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Delhi Newydd 2010
Gemau'r Gymanwlad
Glasgow 2014
Olynydd:
Gold Coast 2018