Neidio i'r cynnwys

Gemau'r Gymanwlad 2006

Oddi ar Wicipedia
18fed Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol15 Mawrth
Seremoni cau26 Mawrth
Agorwyd yn swyddogol ganIarll Wessex
<  XVII XIX  >
Gemau'r Gymanwlad 2006
Enghraifft o:edition of the Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Dyddiad2006 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
LleoliadMelbourne Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/018cs9 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gemau'r Gymanwlad 2006 oedd y deunawfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Melbourne, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 15 - 26 Mawrth. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur ond nid oedd angen pleidlais wedi i Wellington, Seland Newydd dynnu'n ôl o'r ras gan adael Melbourne fel yr unig ymgeisydd.

Y tîm cartref oedd â'r tîm mwyaf gyda 535 o athletwyr a swyddogion a Montserrat oedd â'r tîm lleiaf wrth i'r ynys fechan yrru tri athletwr ac un swyddog a chyflwynwyd Pêl-fasged i'r Gemau am y tro cyntaf.

Uchafbwyntiau'r Gemau

[golygu | golygu cod]

Roedd y Gemau'n llwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i Awstralia gipio 84 medal aur - record i Gemau'r Gymanwlad - gan gynnwys 16 o'r 19 medal aur oedd ar gael i ferched yn y pwll nofio a'r ddwy gystadleuaeth pêl-fasged, oedd yn ymddangos am y tro cyntaf, ond bu raid iddynt fodloni ar fedal arian yn y pêl-rwyd wrth i Seland Newydd lwyddo i ddod y wlad gyntaf (heb law am Awstralia) i ennill y gystadleuaeth yn y Gemau.

Daeth Alexandra Orlando o Ganada y pedwerydd person i ennill chwe medal aur yn yr un Gemau wrth iddi ennill pob cystadleuaeth Gymnasteg Rhythmig a llwyddodd Alleyne Francique i ennill unig fedal Grenada yn holl hanes y Gemau hyd yma wrth iddo gipio'r fedal arian yn y 400m i ddynion.

Ar y trac beicio, daeth Mark Cavendish i'r amlwg wrth i'r gwibiwr ennill medal aur cyntaf Ynys Manaw ers Gemau Ymerodraeth Prydain 1966 gyda buddugoliaeth yn y Ras scratch. Gwnaeth Chris Froome ei unig ymddangosiad yn y Gemau hefyd gan gynrychioli Cenia - daeth yn 17eg yn y Ras yn erbyn y cloc, yn 25ain yn y ras lôn ac yn 24ain yn y gystadleuaeth beicio mynydd.[1]

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002

Tabl Medalau

[golygu | golygu cod]
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1Baner Awstralia Awstralia846969222
2Baner Lloegr Lloegr364034110
3Baner Canada Canada26293186
4Baner India India22171150
5Baner De Affrica De Affrica12131338
6Baner Yr Alban Yr Alban1171129
7Baner Jamaica Jamaica104822
8Baner Maleisia Maleisia7121029
9Baner Seland Newydd Seland Newydd6121331
10Baner Cenia Cenia65718
11Baner Singapôr Singapôr56718
12Baner Nigeria Nigeria46717
13Baner Cymru Cymru351119
14Baner Cyprus Cyprus3126
15Baner Ghana Ghana2013
15Baner Wganda Wganda2013
17Baner Pacistan Pacistan1315
18Baner Papwa Gini Newydd Papua Gini Newydd1102
19 Ynys Manaw1012
19Baner Namibia Namibia1012
19Baner Tansanïa Tansanïa1012
22Baner Sri Lanca Sri Lanca1001
23Baner Mawrisiws Mawrisiws0303
24Baner Nodyn:Alias gwlad Bahamas Bahamas0202
24Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon0202
26Baner Camerŵn Camerŵn0123
27Baner Botswana Botswana0112
27Baner Malta Malta0112
27Baner Nawrw Nawrw0112
30Baner Bangladesh Bangladesh0101
30Baner Grenada Grenada0101
30Baner Lesotho Lesotho0101
33Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago0033
34Baner Seychelles Seychelles0022
35Baner Barbados Barbados0011
35Baner Ffiji Ffiji0011
35Baner Mosambîc Mosambîc0011
35Baner Samoa Samoa0011
35 Gwlad Swasi0011
Cyfanswm245244254743

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Roedd 143 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
AurMichaela BreezeCodi Pwysau63 kg (Cyfuniad)
AurDavid DaviesNofio1500m Dull rhydd
AurDavid PhelpsSaethu50m Reiffl tra'n gorwedd
ArianJulie CraneAthletauNaid uchel
ArianKevin EvansBocsiodros 91 kg
ArianRobert WealeBowlio LawntSenglau
ArianElizabeth MorganBowlio LawntSenglau
ArianDavid EatonGymnastegBar llorweddol
EfyddBeverley JonesAthletau100m T38
EfyddHayley TullettAthletau1500m
EfyddNicole CookeBeicioRas lôn
EfyddGeraint ThomasBeicioRas bwyntiau
EfyddMohammed NasirBocsioo dan 48 kg
EfyddDarren Lee EdwardsBocsio57 kg
EfyddJamie CreesBocsio64 kg
EfyddJohanne BrekkeSaethuReiffl 50m tra'n gorwedd
EfyddDavid Phelps
a Gruffudd Morgan
SaethuParau reiffl 50m tra'n gorwedd
EfyddDavid RobertsNofio100m Dull rhydd i'r anabl
EfyddDavid DaviesNofio400m Dull rhydd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-07-25. Cyrchwyd 2013-09-28.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Mancein 2002ion
Gemau'r Gymanwlad
Melbourne 2006
Olynydd:
Delhi Newydd 2010