Gemau'r Gymanwlad Cymru

Oddi ar Wicipedia
Gemau'r Gymanwlad Cymru
Olivia Breen yn 2022
Enghraifft o'r canlynolCymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://teamwales.cymru Edit this on Wikidata

Gemau'r Gymanwlad Cymru (Saesneg: Commonwealth Games Wales) yw'r corff arweiniol ar gyfer chwaraeon y Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru. Ei enw blaenorol oedd Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru (Commonwealth Games Council for Wales). Dyma'r corff sy'n gweithredu fel corff llywodraethu Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru.

Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn gyfrifol am ddewis, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Ar gyfer y Gemau, ei nod yw paratoi'r tîm gorau posibl, gan greu amgylchedd i'w hysbrydoli a chynnig arweinyddiaeth gref iddynt. Maent hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o'r Gymanwlad ei hun drwy sicrhau cyswllt ag unigolion yng Nghymru a chymunedau Cymreig ledled y Gymanwlad.[1]

Anwen Butten

Cyd-destun Ryngwladol[golygu | golygu cod]

Mae GGC yn un o blith 70 Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad (Commonwealth Games Associations) sy'n aelodau o Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (y Ffederasiwn). Y Ffederasiwn yw rhiant gorff y Gemau, ac mae'n gyfrifol am gyfeiriad a rheolaeth y Gemau. Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn un o ddim ond chwe gwlad sydd wedi cystadlu ym mhob un o'r Gemau ers eu lansio yn 1930.[2]

Bwrdd GGC[golygu | golygu cod]

Aelodau'r Bwrdd yn 2020:

Helen Phillips MBE - Cadeirydd Anweithredol bu'n gyfrifol am drawsnweid Gymnasteg Cymru
Jonathan Morgan OBE - Dirprwy Gadeirydd - cyn-Brif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru
Craig Maxwell - mae ganddo brofiad yn gweithio i Undeb Rygbi Cymru
Dr Nicola Phillips
Claire Warnes
Anne Ellis OBE - (Llywydd, swydd anrhydeddus) - wedi ennill 134 cap dros Hoci Merched Cymru a bu'n cyn-Lywydd Hoci Cymru
Brian Davies OBE - cynrychiolydd Chwaraeon Cymru
Clare Hoskin - Ymgynghorydd Cyfreithiol
Wendy Barbour - Cyfarwyddwr Cyllid
David Phelps - un o saethwyr gorau Cymru, o gystadlu'n rhyngwladol ar ôl ennill ei ail fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur yn 2018. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn 5 Gemau'r Gymanwlad

Staff[golygu | golygu cod]

Ceir dau aelod o staff llawn amser i Gemau'r Gymanwlad Cymru

Chris Jenkins - Prif Weithredwr
Cathy Williams - Pennaeth Ymgysylltu.Mae'n gyfrifol o ddatblygu ochr hyrwyddo chwaraeon a Gemau'r Gymanwlad yn gymunedol.[3]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://teamwales.cymru/cy/
  2. https://teamwales.cymru/cy/about-us/
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-05. Cyrchwyd 2020-06-05.