Gem fforch arian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Autographa gamma
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Autographa
Rhywogaeth: A. gamma
Enw deuenwol
Autographa gamma
(Linnaeus, 1758)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gem fforch arian, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gemau fforch arian; yr enw Saesneg yw Silver Y, a'r enw gwyddonol yw Autographa gamma.[1][2]

Mewn ffram
Siani flewog ar goesyn moronen.

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gem fforch arian yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Symudiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n hysbys bod y gem fforch arian yn wyfyn mudol. Dyma hanesyn i gyfleu hyn. Yn 1966 cofnododd George Evans, warden Gwylfa Adar Ynys Enlli ar y pryd, 45 math o wyfyn o gwmpas y goleudy, wedi eu denu gan y golau. O'u plith roedd 19 na chafodd eu gweld fel arfer yn unman arall ar yr ynys. Roedd amryw ohonynt yn gyffredin, ond ar dri dyddiad, 12fed Mehefin, 12fed Awst a'r 19eg Medi tynnwyd ei sylw gan un math yn arbennig, sef y "cannoedd, efallai miloedd" o ffyrch arian.

Dywedodd Peter Hope Jones[3] bod eu presenoldeb niferus liw dydd ar yr ynys yn y dyddiau dilynnol yn codi'r posibilrwydd diddorol bod y rhywogaeth hon (ac eraill efallai) yn cael eu hudo i olau'r goleudy nid yn unig o gyffiniau'r goleudy ei hun ond hefyd efallai o bellterau llawer mwy. Roedd tywydd o gwmpas y 21 Awst (o leiaf) yn ffafriol iawn i fewnfudwyr o wyfynod. Roedd llif awyr poeth yn dod o dde'r Iwerydd ar y pryd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Hope-Jones, P. (1988), The Natural History of Bardsey, Gwasg Prifysgol Cymru