Gaynor Arnold

Oddi ar Wicipedia
Gaynor Arnold
Ganwyd1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, gweithiwr cymdeithasol Edit this on Wikidata

Awdur a anwyd yng Nghymru yw Gaynor Arnold (ganwyd 1944)[1] Cafodd ei geni yng Nghaerdydd. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg St Hilda, Rhydychen, ac wedyn Astudiaethau Cymdeithasol a Gweinyddol yn yr Adran Polisi Cymdeithasol ac Ymyrraeth, Prifysgol Rhydychen. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn Birmingham ers yr 1970au.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Girl in a Blue Dress gan Tindal Street Press yn 2008. Ymddangosodd y nofel ar y rhestr hir Gwobr Booker a'r Wobr Oren am Ffuglen. [2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Girl in a Blue Dress (Merch mewn Ffrog Las) (2008)
  • Lying Together (Gorwedd Gyda'n Gilydd) (2011)
  • After such kindness (Ar ôl caredigrwydd mor fawr) (2012)
  • The Sea in Birmingham (cyfrannwr; 2013)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "About Me". Gaynor Arnold official website (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2021.
  2. (yn en) ARNOLD, GAYNOR, The Writers of Wales Database, Literature Wales, http://www.literaturewales.org/writers-of-wales/i/133283/desc/arnold-gaynor/, adalwyd 9 Medi 2012