Garry Shandling

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Garry Shandling
GarryShandlingApr2011.jpg
Shandling yn Noson Gomedi 9 elusennol yn Beverly Hills, Califfornia ar 30 Ebrill 2011
Enw bedydd Garry Emmanuel Shandling
Geni (1949-11-29)29 Tachwedd 1949
Chicago, Illinois, U.D.A.
Marw 24 Mawrth 2016(2016-03-24) (66 oed)
Los Angeles, Califfornia, U.D.A.
Cyfrwng Stand-yp, teledu, film
Cenedligrwydd Americanwr
Blynyddoedd gwaith 1984–2016
Genres Comedi arsylwadol, dychan, comedi gwingo
Pwnc/Pynciau Cymdeithas, bywyd bob dydd
Dylanwadau Woody Allen, Johnny Carson
Dylanwadau Ricky Gervais, Judd Apatow, Jon Stewart, Louis C.K., Jerry Seinfeld

Actor, cynhyrchydd, sgriptiwr a seren deledu Americanaidd oedd Garry Emmanuel Shandling (29 Tachwedd 194924 Mawrth 2016) a gaiff ei gofio'n arbennig am It's Garry Shandling's Show a The Larry Sanders Show[1][2][3].

Bachgen o Chicago oedd Garry Shandling, a anwyd i deulu Iddewig. Symudodd y teulu i Tucson, Arizona pan oedd yn blentyn ifanc er mwyn i'w frawd gael triniaeth i'w Ffibrosis systig ond bu farw Barry pan oedd Gary'n ddeg oed.[4][5] Mynychodd Brifysgol Arisona lle graddiodd mewn peirianneg electronig. Dilynwyd hyn gydag astudiaeth ôl-raddedig mewn marchnata a sgwennu creadigol.

Bu farw'n ddisymwth yn 66 oed yn Los Angeles, California o hyperparathyroidism.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.