Gargoil

Oddi ar Wicipedia
Gargoil modern, Eglwys Gadeiriol Chichester
Gargoil ar Eglwys Gadeiriol Strasbwrg
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Pistyll bargod yn ymestyn trwy geg agored cerflun ar fur neu fargod adeilad eglwysig yw gargoil (Saesneg Canol gargoyl o'r Ffrangeg Canol gargouille, o gargouiller "byrlymu"). Yn wreiddiol cyfyngid y term i ddisgrifio'r pistyll bargod ei hun ond yn fuan daeth i olygu'r ffigwr cerfiedig yn ogystal. Erbyn heddiw mae'r enw yn cael ei ddefnyddio ar lafar i gynnwys ffigyrau rhyfedd o unrhyw fath a geir ar fur eglwys neu adeilad hynafol arall (chimera yw'r enw cywyir am y dosbarth hwnnw o ffigyrau).

Fel rheol mae gargoil ar ffurf rhyw fwystfil anhygoel neu ffigwr dynol rhyfeddol. Mae'n ymestyn allan o fargodau neu furiau eglwysi, yn arbennig rhai o'r cyfnod Gothig. Ei bwrpas yn wreiddiol oedd i ddychryn ysbrydion drwg a phwerau maleisus. Roedd hefyd yn fodd darluniol i gyferbynu drygioni'r byd tu allan â'r sancteiddrwydd y tu mewn i'r adeilad.

Ceir ffigyrau tebyg mewn rhai traddodiadau crefyddol a phensaernïol y tu allan i Gristnogaeth, er enhgraifft temlau a chestyll y Dwyrain Pell, ond er bod yr enw 'gargoil' yn cael ei ddefnyddio weithiau yn y cyd-destun hwnnw fel rheol fe'i cyfyngir i'r traddodiad pensaernïol Cristnogol.