Neidio i'r cynnwys

Gareth Potter

Oddi ar Wicipedia
Gareth Potter
Ganwyd26 Rhagfyr 1964 Edit this on Wikidata
Nottingham Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cerddor, sgriptiwr, cyflwynydd, actor Edit this on Wikidata

Actor, cerddor, DJ, awdur a chyflwynydd teledu a radio o Gymru yw Gareth Potter (ganwyd 26 Rhagfyr 1964) neu Gareth David Potter.[1] Mae'n gyn-aelod o'r bandiau Cymraeg Clustiau Cŵn, Pop Negatif Wastad, Traddodiad Ofnus a Tŷ Gwydr.[2] Fel actor a DJ, mae wedi perfformio ar draws y byd gan gynnwys cyfnod yn y gyfres sebon Eastenders ar y BBC.[3] Cafodd ei enwebu am Wobr Bafta Cymru am ei ffilm fer Fire in My Heart yn 2018.[4] Yn 2014, derbyniodd ganmoliaeth mawr am ei ddewrder o drafod y camdrin rhywiol a ddioddefodd o dan law ei gyn-athro drama yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, John Owen, mewn rhaglen ddogfen ar S4C.[5]

Gareth Potter (canol cefn) gyda chast Eastenders

Ganwyd Gareth yn Nottingham, a'i fagu yng Nghaerffili.[6] Mynychodd Ysgol Senghennydd ac yna Ysgol Gyfun Rhyfelen. Derbyniodd ran o'i addysg yn Llundain.[7]

"Wedi cyfnod yn Brighton, Llundain a Middlesex," nodwyd mewn adolygiad o'i ddrama hunangofiannol, Gadael yr Ugeinfed Ganrif [2010], "...ynghyd ag ymddangosiad ar y gyfres Eastenders, ryda ni ar ddiwedd yr wythdegau [1980au], a chyfnod Fideo 9 a’r ‘ysfa i greu pop modern Cymraeg ddim wedi ‘tewi’."[6]

Dechreuodd ei yrfa fel actor ar y gyfres District Nurse ym 1984 pan yn 20 oed.[7]

Fel DJ [troellwr disgiau] mae wedi perfformio yn Ibiza.[7]

Mae o hefyd yn ddarlithydd mewn Prifysgolion a Cholegau Drama.[7]

Treuliodd gyfnod yn byw a gweithio ym maes theatr yn Cosovo, ar ôl y Rhyfel yn y Balcanau.[7]

John Owen ac Ysgol Rhydfelen

[golygu | golygu cod]

Tra'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, daeth Gareth Potter o dan "ddylanwad absoliwt" yr athro drama John Owen.[8] Cafodd y cyfnod ei groniclo'n fanwl yn Adroddiad Clywch a gyhoeddwyd yn 2004. Er na enwir yr un disgybl a ddioddefodd gamdrin rhywiol a meddyliol o fewn yr adroddiad, dewisiodd Gareth rannu ei brofiad o dan law ei gyn-athro mewn rhaglen ddogfen ar S4C o'r enw Cadw Cyfrinach yn Ebrill 2021. Rhannodd ef a dau arall a weithiodd gydag Owen ar gyfres Pam Fi Duw? eu profiadau o feithrin perthynas amhriodol gyda'r cyn-athro, a gweld bechgyn eraill yn cael eu hecsbloetio'n rhywiol ganddo.[5]

Er i John Owen ladd ei hun yn Hydref 2001, cyn yr achos llys, nododd Comisiynydd Plant Cymru Peter Clarke yn ei adroddiad yn 2004, "Ni all unrhyw un a glywodd y dystiolaeth a glywais i yn fy ymchwiliad amau, â didwylledd, fod Mr John Owen yn euog o weithredoedd o anweddustra rhywiol difrifol yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae'r dystiolaeth a glywais wedi dangos i Mr Owen, yn ôl pwysau tebygolrwydd, gam-drin disgyblion yn ei ofal yr rhywiol dros nifer o flynyddoedd".[8]

Yn 2024, beirniadodd Gareth yr awdurdodau am eu "methiannau" yn achos camdrin rhywiol y cyn-brifathro Neil Foden o Ysgol Friars, Bangor ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, yn enwedig wedi argymhellion Adroddiad Clywch yn 2004.[9]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Fel actor oni nodir yn wahanol:

Theatr

[golygu | golygu cod]

Radio, Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gareth POTTER personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.
  2. "Gareth Potter". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.
  3. "Gareth Potter". EastEnders Wiki (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.
  4. "Gareth Potter - Awards". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.
  5. 5.0 5.1 "Dioddefwr John Owen: Dim syniad 'pa mor sinistr oedd y trap'". BBC Cymru Fyw. 2021-04-05. Cyrchwyd 2025-09-26.
  6. 6.0 6.1 Griffiths, Paul (2010-08-13). "Paul Griffiths: 'Gadael yr Ugeinfed Ganrif'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-09-26.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Torchwood, Project: (2018-09-05). "Project: Torchwood: Interviews Gareth Potter by DJ Forrest". Project. Cyrchwyd 2025-09-26.CS1 maint: extra punctuation (link)
  8. 8.0 8.1 "Adroddiad Clywch" (PDF). 2004.
  9. "Neil Foden: Abuse victim criticises head teacher case failings". BBC News (yn Saesneg). 2024-05-16. Cyrchwyd 2025-09-26.
  10. "Gareth Potter | Actor, Writer, Music Department". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.