Gareth Lloyd James
Gwedd
| Gareth Lloyd James | |
|---|---|
Gareth yn 2025 | |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | athro |
Bardd, nofelydd ac athro yw Gareth Lloyd James.
Yn 2025, ef oedd Pennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth.[1] Bu'n ddirprwy yn yr ysgol ers ugain mlynedd, cyn camu i fod yn bennaeth dros dro yn 2023.[2]
Enillodd y goron yn Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont Steffan 2023.[3]
Yn 2025, roedd e'n byw yn Rhydyfelin ger Aberystwyth.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Magwyd yng Nghwm-ann, ger Llanbedr Pont Steffan. Aeth i Ysgol Gynradd Coedmor ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2001.
Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llŷn ac Eifionydd yn 1998.[4][5]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Dirgelwch Gwersyll Caerdydd (Gwasg Gomer, 2009)
- Dirgelwch Gwersyll Glan-Llyn (Gwasg Gomer, 2009)
- Dirgelwch Gwersyll Llangrannog (Gwasg Gomer, 2010)
- Dirgelwch Pentre Ifan (Gwasg Gomer, 2012)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Staff | Ysgol Gymraeg Aberystwyth". www.ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk. Cyrchwyd 2024-11-29.
- ↑ "Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn penodi Pennaeth a Dirprwy newydd", Yr Angor 473 (Mehefin 2025), t13
- ↑ "Canlyniadau Eisteddfod-RTJ Llanbedr Pont Steffan 2023" (PDF). 2023.
- ↑ "Gareth Lloyd James". Y Lolfa.
- ↑ "Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd". CASGLU'R CADEIRIAU. Cyrchwyd 2024-11-30.