Gardd Bodnant

Oddi ar Wicipedia
Gardd Bodnant
Matharboretwm Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2342°N 3.8006°W Edit this on Wikidata
Map

Gardd ger Tal-y-cafn ym mwrdeistref sirol Conwy yw Gardd Bodnant. Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i'r cyhoedd, gan ddenu ymwelwyr niferus.

Mae'r ardd yn cynnwys dros 80 erw o gwmpas Tŷ Bodnant. Gosodwyd y rhan fwyaf ohoni gan Henry Davis Pochin, cemegydd diwydiannol llwyddiannus, o 1874 hyd ei farw yn 1895. Codwyd Tŷ Bodnant yn 1792 ond cafodd ei ailadeiladu'n sylweddol iawn gan Pochin. Pan fu farw daeth yn eiddo i'w ferch, Laura Elizabeth priod Farwn cyntaf Aberconwy ('Barwn Aberconway') yn 1911. Rhoddwyd yr ardd, ond nid y tŷ a rhannau eraill o'r ystâd, i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1949.

Cyfres o erddi yn hytrach nag un ardd fel y cyfryw yw Gardd Bodnant. Mae'n cynnwys gerddi ffurfiol wedi'u ffinio gyda gwrychoedd bocs, pyllau addurnol a borderi ffurfiol o flodau, bwa laburnum a sawl gardd rhosynau. Mae Bodnant yn adnabyddus ym myd garddio am ei rhaglen tyfu planhigion prin, yn enwedig rhywogaethau o'r rhododendron ac azaleas. Ceir casgliadau nodedig o magnolia, camellia, clematis a hydrangea hefyd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.