Garamond
Gwedd
| Enghraifft o: | teulu o ffurfdeipiau |
|---|---|
| Math | ffurfdeip seriff |
| Dechrau/Sefydlu | c. 1530 |
| System ysgrifennu | y sgript Ladin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01bmp6 |

Garamond yw'r enw a roddir i arddull glasurol o ffurfdeip serif sy'n seiliedig ar ddyluniad gan y sylfaenydd teipiau o Ffrainc Claude Garamond (tua 1510–1561).[1] Fe'i defnyddiwyd yn helaeth wrth gysodi llyfrau. Mae'n nodedig am ei geinder, gyda'i esgynyddion a'i ddisgynyddion hir, a'i gyferbyniad bach rhwng rhannau trwchus a thenau'r llythrennau.[2] Fe'i cyhoeddwyd (gyda mân amrywiadau) gan lawer o ffowndrïau teipiau ac wedi hynny ar ffurf ddigidol. Yn y cyfnod modern nid llythrennau italig a d a gynlluniwyd gan Claude Garamond ei hun a ddefnyddir, ond yn hytrach rhai gan ei gyfoeswr Robert Granjon (tua 1513–1590).
Oriel
[golygu | golygu cod]Delweddau o lyfr sbesimen American Type Founders o 1923 sy'n darlunio dyfnyddiau nodweddiadol o Garamond.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Encyclopædia Britannica. 2014. Cyrchwyd 20 Awst 2015.
- ↑ "Just what makes a Garamond a Garamond?". Linotype. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2015.